
Dysgwyr learndirect 100% yn fodlon gyda'r gwasanaeth
Yn ôl arolwg o fodlonrwydd, mae cwsmeriaid nifer o ganolfannau learndirect 100% yn hapus gyda'r gwasanaeth trwy gydol y flwyddyn. Y canolfannau hyn yw:
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Rhisga
- Coleg Pontardawe; Coleg Castell-nedd Port Talbot
- Netcafe, Coleg Glannau Dyfrdwy
- Canolfan Ddysgu'r Wyddgrug, Coleg Glannau Dyfrdwy
Arfer gorau: Coleg Glannau Dyfrdwy - Dysgwyr bodlon
Mae Canolfan Ddysgu'r Wyddgrug yn ganolfan addysg gymunedol i oedolion a sefydlwyd yn 2001 yng ngorsaf fysiau'r dref. Fe dyfodd yn gyflym i fod yn lleoliad dysgu cymunedol prysur.
Mae llawer o'r dysgwyr yn byw ynardal yr Wyddgrug ac yn mwynhau awyrgylch gyfeillgar y ganolfan, sy'n cynnig llawer o gyrsiau gwahanol gan gynnwys: ieithoedd, cyfrifon, gweinyddiaeth, peintio a chwnsela. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig cyrsiau Sgiliau Sylfaenol a Chyfrifiaduro gan gynnwys ECDL sy'n cael eu cyflwyno trwy ddull dysgu cyfunol, lle mae'r dysgwyr yn gweithio ar learndirect ac yn mynychu dosbarthiadau a addysgir. Mae nifer o ddysgwyr y ganolfan wedi dewis dilyn cyrsiau learndirect ac mae rhai ohonynt wedi dilyn sawl cwrs learndirect gwahanol ers agor y ganolfan.
Yng nghanolfannau learndirect Coleg Glannau Dyfrdwy mae cyfle gan bob dysgwr learndirect i dderbyn asesiad cychwynnol gyda thiwtor i'w helpu i ddewis y cwrs a'r lefel sy'n addas iddyn nhw. Maen nhw hefyd yn dilyn proses ymgynefino fanwl, ac ar ôl hynny gallant fynd i unrhyw rai o'r sesiynau cymorth tiwtor niferus a gynhelir bob wythnos mewn sawl lleoliad gwahanol ledled Sir y Fflint ac ar ddyddiau ac amseroedd gwahanol. Gallant gysylltu â thiwtoriaid ar y ffôn ac ar e-bost hefyd. Mae dysgwyr y coleg yn fodlon iawn gyda hyblygrwydd learndirect a'r ffaith y gallant ddewis pryd a ble maen nhw'n dysgu. Mae'r tiwtoriaid wedi ymrwymo i learndirect ac mae ganddynt berthynas ardderchog gyda'r dysgwyr - mae hyn yn amlwg o edrych ar ganlyniadau'r arolwg.
Ers mis Awst 2007 mae Canolfan Ddysgu'r Wyddgrug wedi cysylltu â mwy na 100 o ddysgwyr, sydd wedi cofrestru ar dros 150 o gyrsiau learndirect rhyngddynt.
100% Satisfied learndirect Learners
A recent survey has uncovered a number of learndirect learning centres that have received 100% satisfaction scores from learners. They are:
- WEA Risca
- Coleg Pontardawe, Neath Port Talbot College
- Netcafe, Deeside College
- Mold Learning Centre, Deeside College
Best Practice: Deeside College - Satisfied Learners
Mold Learning Centre is an adult community education centre set up in 2001 in the town's bus terminus' and has quickly developed into a thriving community learning venue.
Many learners are local to the Mold area and enjoy the friendliness of the centre, which offers many different courses including: languages, accounts, administrationl painting and counselling. The centre also offers Basic Skills and Computing courses including ECDL delivered through a blended learning approach, where learners work on learndirect and attend taught classes. The centre has many learners who have chosen to do learndirect courses, with some of these having done many different learndirect courses since the centre opened.
At Deeside College learndirect centres all learndirect learners are offered an initial assessment with a tutor to help them choose the correct course and level for them. They also have a detailed induction, following which they can attend any of the numerous tutor support sessions each week in a variety of locations across Flintshire and on various days and times, as well as telephone and email contact with tutors. Deeside College learners enjoy the flexibility of learndirect and the ability to log on to their learning when and where it best suits them. The tutors are very committed to learndirect and have an excellent rapport with learners - which is reflected in the survey results.
Since August 2007 Mold Learning Centre has engaged with over 100 learners, who between them have enrolled on over 150 learndirect courses.