Natalie Griffiths o Gaerffili - Gwobr Sgiliau Gwaith

Pan ddechreuodd Natalie Griffiths, sy'n 21 oed, feddwl am ei dyfodol, sylweddolodd y byddai gwella ei sgiliau Mathemateg a Saesneg yn ei helpu hi i gael swydd dda. Aeth Natalie ymlaen i ennill cymhwyster cyfrifiaduro a sgiliau rhifedd trwy learndirect.

Meddai Natalie: "Pan oedd fy merch yn 18 mis oed, dechreuais sylweddoli nad oedd gen i unrhyw beth yn gefn i mi, dim cymwysterau na sgiliau ar gyfer y dyfodol. Gadewais yr ysgol gyda rhai cymwysterau TGAU ond doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor bwysig oedd cymwysterau Mathemateg, Saesneg a Chyfrifiadura. Erbyn hyn, mae fy merch yn ddigon hen i mi ddechrau chwilio am waith, ond dim ond pan ddechreuais i edrych ar hysbysebion swyddi y gwnes i sylweddoli fod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am y cymwysterau hyn. Roedd hi'n bryd i mi feddwl o ddifrif am y peth ac mae bywyd yn rhy fyr i golli cyfleoedd fel hyn".

Natalie Griffiths from Caerphilly - Skills for Work Award

When 21 year old Natalie started to think about her future, she soon realised that brushing up on her maths and English skills would allow her to get a good job. Natalie has gone on to gain a computer qualification and numeracy skills through learndirect.

Natalie said: "When my daughter was 18 months old, I started to realise that I didn't have anything behind me, no qualifications or skills for the future. I left school with some GCSE's but didn't realise how vital qualifications in maths, English and computing was. I am currently at the stage where my daughter is old enough for me to start looking for employment but it wasn't until I started looking at job advertisements that I realised that most employers ask for these qualifications. It was basically now or never and life is too short to sit back and let opportunities pass you by".

Page title