Robert Hellen o'r Wyddgrug - Gwobr Dysgwr Eithriadol

Mae Robert, sy'n 46 oed, wedi bod yn brwydro yn erbyn afiechyd ers blynyddoedd ond y newyddion da yw ei fod yn dechrau gwella ac, ar ôl bwlch o bron i 30 mlynedd, mae wedi dychwelyd i ddysgu.

Cafodd Robert brofiad gwael yn yr ysgol a chafodd ei labelu fel rhywun ag anawsterau dysgu, er nad oedd hynny'n wir o gwbl. Mewn gwirionedd, mae Robert yn dioddef o glefyd coeliag, sef anghydbwysedd ym maetholion y corff sy'n atal datblygiad. Dim ond 2 flynedd yn ôl y cafodd Robert y diagnosis hwn ac, ers hynny, mae wedi gweddnewid ei fywyd ac wedi dod o hyd i frwdfrydedd mawr dros ddysgu, gyda'r nod o ennill digon o wybodaeth am gyfrifiaduron i gael swydd dda.

Meddai Robert: "Mae learndirect wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Rwy'n teimlo mor lwcus fy mod i wedi gallu dychwelyd i ddysgu. Rydw i wedi colli gormod o flynyddoedd o dangyflawni ac rwy'n gobeithio y galla i symud ymlaen i sicrhau cyflogaeth addas a gwireddu breuddwyd".

Robert Hellen from Mold - Outstanding Learner Award

At the age of 46, Robert has battled years of ill health but is now on the road to recovery and after a gap of almost 30 years - he has returned to learning.

Robert had a poor experience of school and was wrongly labelled as having learning difficulties. In fact, Robert has Celiac Disease which is an imbalance in the body's nutrients which inhibits development. It was only 2 years ago that Robert was eventually diagnosed with this manageable disease and since then, he has turned his life around and found great enthusiasm for learning, with a view to gaining enough computer knowledge to get a good job.

Robert says: "learndirect has helped me enormously and given me so much confidence. I feel so lucky to have found my way back into education. I have lost too many years of underachievement and now hope that I can move on enough to eventually find suitable employment and realise a dream".