Mae'r Gynhadledd a'r Seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad hefyd yn cael eu cefnogi gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths
Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gwella sgiliau lefel uwch a diwallu anghenion busnesau yng Nghymru. Mae ganddi berthynas waith agos ag Ufi Cymru sydd, trwy learndirect, wedi meithrin enw da iddo'i hun am ddenu rhai o'r bobl y mae'r llywodraeth yn fwyaf awyddus i'w cyrraedd i ailddechrau dysgu.
Meddai'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, "Mae'n bleser cefnogi Ufi/learndirect gan ei fod mewn sefyllfa wych i gynnig cymorth gyda sgiliau sylfaenol, sgiliau cyflogadwyedd a hwyluso cynnydd, gan gynnig llwybrau clir rhwng y cwrs cyntaf a chymwysterau cydnabyddedig.
Mae learndirect hefyd yn ffordd arloesol a fforddiadwy o ansawdd uchel i gyflogwyr allu manteisio ar ddoniau'u gweithlu er mwyn gwella cynhyrchiant a pherfformiad y busnes. Trwy ddarparu hyfforddiant unigryw i BBaChau, mae learndirect yn cyfrannu at agenda Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu sgiliau sy'n gweithio i Gymru."
The Conference and Achievement Awards Ceremony are further supported by The Deputy Minister for Skills, John Griffiths
The Welsh Assembly Government aim to drive up higher level skills and address the needs of businesses in Wales. There is a close working relationship with Ufi Cymru who, through learndirect, has built up a reputation for attracting back into learning some of the people the government most needs to reach.
The Deputy Minister for Skills, John Griffiths commented "I am delighted to support Ufi/learndirect as it is well placed to support basic skills, skills for employability and to make progression easy, offering clear routes from first course onto a recognised qualification.
learndirect also offers employers a high quality, affordable and innovative way to help unlock the talents of their workforce to increase productivity, business performance. By providing tailored training solutions for SMEs learndirect is contributing to the Welsh Assembly Government's agenda for developing skills that work for Wales."