Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths ar ei ymweliad diweddar i Goleg Gwent.
Aelod Cynulliad dros Aberafan, Dr Brian Gibbons yn ymweld â llyfrgell Cwmafan.
Aelodau Cynulliad yn bwrw golwg ar ddysgu ar hyd a lled Cymru
Mae nifer o ACau Cymru wedi ymweld â llyfrgelloedd lleol a chanolfannau dysgu i ganfod sut y gall y darparwr dysgu ar-lein, learndirect gynorthwyo pobl leol i ddysgu sgiliau a chymwysterau hanfodol.
Nod learndirect yw chwalu´r rhwystrau i ddysgu trwy gynnig dull hyblyg o astudio. Boed ar gyfer y gwaith neu gyflawniad personol, gall dysgwyr gael mynediad i´w cyrsiau o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi´i gysylltu i´r rhyngrwyd - gartref, yn y gwaith neu mewn canolfan learndirect - a datblygu ar gyflymder sy´n addas iddyn nhw.
Coleg Gwent, Casnewydd
Galwodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, yng Ngholeg Gwent i weld a´i lygaid ei hun sut mae unigolion yn defnyddio´r rhyngrwyd i wella´u sgiliau Saesneg gyda chymorth Coleg Gwent a´r darparwr ar-lein, learndirect.
Mae Coleg Gwent yn un o rwydwaith o ganolfannau dysgu learndirect ledled Cymru. Mae cyrsiau learndirect yn cael eu darparu trwy Goleg Gwent mewn lleoliadau cymunedol, yn y gweithle ac yn y Coleg.
Meddai John Griffiths: "Mae´r bartneriaeth rhwng Coleg Gwent a learndirect yn enghraifft wych ar gyfer darparwyr hyfforddiant ac yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg newydd yn effeithiol i wneud dysgu yn fwy hygyrch a chau´r bwlch sgiliau ledled Cymru. Mae angen i ni roi cymaint â phosibl o anogaeth i ddysgwyr ac mae´n hanfodol chwalu´r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu."
Carchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr
Bu Peter Black, Aelod Cynulliad dros y De Orllewin yn ymweld â Charchar y Parc. Meddai: "Mae´r bartneriaeth rhwng Carchar y Parc a learndirect yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg newydd yn effeithiol er mwyn i unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd gymryd rhan mewn dysgu gydol oes. Mae wedi bod yn dda gweld pa gyfleoedd dysgu sydd ar gael i garcharorion ac yn galonogol gweld cymaint yn manteisio ar y rhaglenni dysgu sydd ar gael ac yn gwella´u sgiliau er mwyn gwella´u cyfleoedd i gael gwaith pan fyddan nhw´n gadael."
Dywedodd rheolwr E-dysgu Carchar y Parc, Sean Yarranton: "Mae carcharorion yn cael eu hannog i ddilyn cyrsiau learndirect ar bodiau e-ddysgu sydd wedi´u lleoli ledled y carchar. Gall carcharorion wneud eu gwaith yn eu hamser rhydd, heb orfod colli gweithgareddau strwythuredig eraill a gallan nhw ddewis o amrywiaeth eang o gyrsiau y mae learndirect yn eu cynnig.
Mae dysgu ar-lein yn newydd i lawer o´n dysgwyr ac mae´n cynnig llawer o fanteision i ni yng Ngharchar y Parc. Gall unigolion ddatblygu agwedd newydd tuag at ddysgu, heb wynebu´r un profiadau dysgu a gawson nhw yn y gorffennol. Cryfder allweddol learndirect yw ei hyblygrwydd, sy´n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar gyflymder addas iddyn nhw ac yn ôl yr hyn sy´n gyfleus iddyn nhw a pharhau gyda´r dysgu ar ôl cael eu rhyddhau".
Llyfrgell Cwmafan, Castell-nedd Port Talbot
Mae llyfrgell Cwmafan yn un o rwydwaith o lyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot sy´n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar-lein trwy learndirect a Choleg Castell-nedd Port Talbot. Mae´r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â learndirect i gynnig cyrsiau a chymwysterau ar-lein sy´n cwmpasu sgiliau sylfaenol, TG, a busnes a rheoli.
Yn ystod ymweliad â Llyfrgell Cwmafan, gwelodd Aelod Cynulliad Aberafan, Dr. Brian Gibbons, fanteision defnyddio´r rhyngrwyd ar gyfer dysgu ac meddai: "Mae´r bartneriaeth rhwng Coleg Castell-nedd Port Talbot, y gwasanaethau llyfrgell, a learndirect yn enghraifft dda o ddysgu yn y gymuned ac yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg newydd yn effeithiol i gynnal diddordeb mewn dysgu gydol oes. Mae angen i ni roi cymaint â phosibl o anogaeth i ddysgwyr ac mae´n hanfodol chwalu´r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae wedi bod yn dda gweld yr hyn sydd ar gael i bobl leol ac mae´n galonogol gweld cymaint yn manteisio ar y cyfleoedd hyn i ddysgu a gwella´u sgiliau."
Coleg Llandrillo, Bae Colwyn
Cafodd Gareth Jones AC Aberconwy a Chadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu gipolwg ar ddarpariaeth learndirect yng Ngholeg Llandrillo a gwelodd yr effaith gadarnhaol ar sgiliau sylfaenol a datblygu partneriaeth yng Nghymru. Cafodd yr AC sy´n siarad Cymraeg weld sut mae gan Ufi Cymru y potensial i gefnogi´r agenda ddwyieithog yng Nghymru.
Meddai Gareth Jones: "Mae darpariaeth learndirect trwy Goleg Llandrillo yn dangos sut y gall gweithio mewn partneriaeth gael effaith gadarnhaol ar fynd i´r afael ag anghenion sgiliau sylfaenol. Mae hyblygrwydd a natur cyrsiau learndirect yn apelio at nifer helaeth o ddysgwyr sy´n cael anhawster gyda dulliau dysgu traddodiadol."
Andrew yn sbarduno ei ddysgwyr ac yn ennill gwobr e-diwtor
Mae Andrew Evans wedi bod yn diwtor/gyrrwr ar fws Cyberlink Llyfrgelloedd Pen-ybont ar Ogwr yn darparu sgiliau TG, rhifedd a llythrennedd sylfaenol ers pum mlynedd.
Mae wedi cyflwyno sesiynau Cyberskills 3 wythnos, a chyflwyniad i TG, ac yna´n cofrestru pobl ar gyfer cyrsiau learndirect. Yn wir, erbyn hyn mae´r rhan fwyaf o´i fyfyrwyr wedi cofrestru ar y cyrsiau ar-lein, ond mae Andrew yn parhau i´w cymell a´u cynorthwyo.
Mae Andrew wedi darparu´r gwasanaeth hwn ar ei ben ei hun am 18 mis gan weithio o dan amgylchiadau anodd - yn dal ati i ysgogi ei fyfyrwyr i barhau i ddysgu ac annog llawer mwy i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu. Dechreuodd ei yrfa ym maes dysgu oedolion fel tiwtor rhan-amser yng Ngholeg Abertawe, ac o dipyn i beth cafodd swydd lawn amser yng Ngholeg Aberdâr. O´r fan honno ail-hyfforddodd Andrew trwy gwrs dysgu o bell a daeth yn hyfforddwr TG ar ei liwt ei hun, gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Tân De Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a´r DVLA.
Meddai, "Cyrhaeddais i bwynt lle´r oeddwn i´n cyfarfod â phobl trwy´r gwaith llawrydd, ond doeddwn i ddim yn gallu datblygu perthynas â nhw am fy mod i´n hyfforddi gwahanol bobl trwy´r amser, ac o ganlyniad doeddwn i byth yn gweld ffrwyth eu llafur na´u cyrhaeddiadau. Mae´r gwaith hwn yn golygu fy mod i´n gweithio´n agos gyda dysgwyr yn y gymuned a dwi´n mwynhau hynny´n fawr, ac mae´n rhoi boddhad i mi o weld pobl yn dod yn eu blaen ac yn chwalu rhwystrau sydd wedi´u hatal rhag dysgu sgiliau newydd."
Enillodd Andrew wobr e-diwtor learndirect yn Seremoni Gwobrau Tiwtoriaid NIACE Dysgu Cymru yn ddiweddar.