Cnoi cil – sgiliau iaith i weithwyr mudol
Ffatri Cynhyrchu Bwyd Lleol; RF Brooks yn dangos ymrwymiad i Addewid y Cyflogwr.
Mae tîm learndirect yng Ngholeg Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â´r adran Sgiliau Sylfaenol yn y Coleg i ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr i staff ffatri cynhyrchu bwyd lleol, R F Brooks. Bydd y rhaglen, a ddarperir trwy learndirect gyda chymorth staff sgiliau sylfaenol y Coleg, yn canolbwyntio ar anghenion llythrennedd sylfaenol ac iaith Saesneg.
Mae R F Brooks yn cyflogi dros 830 o weithwyr gan cynnwys pobl o fwy nag ugain o wledydd gwahanol. Roedd angen rhaglen a fyddai´n darparu hyfforddiant yn y Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL) a darparu llwybr cynnydd i weithwyr cyflogedig ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Meddai Rheolwr Sgiliau Sylfaenol ac Allweddol Coleg Gwent, Maliika Kaaba: “Mae rheolwyr R F Brooks yn cydnabod bod angen i staff wella eu sgiliau iaith Saesneg er mwyn gweithio´n well yn y gweithle. Bydd gwella sgiliau iaith staff nid yn unig yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant ond bydd yn creu amgylchedd gweithio mwy diogel i bawb.
"Sefydlwyd canolfan ddysgu ar y safle ac mae rhaglen hyfforddi gymysg yn cael ei darparu, sy´n cyfuno ESOL learndirect a chyrsiau llythrennedd a rhifedd sylfaenol gyda chynnwys pwrpasol o dan arweiniad tiwtoriaid Coleg Gwent.
"Mae´r prosiect hwn yn rhan o´n hymrwymiad i fenter Addewid y Cyflogwr. Mae Coleg Gwent wedi cyflogi tri aelod o staff yn unswydd i hyrwyddo Addewid y Cyflogwr a fydd yn cyfarfod â chwmnïau ledled Gwent i gynghori ar sut y gellir cef nogi rhaglenni unigol datblygu´r gweithlu.
Bydd gan bob cwmni wahanol anghenion hyfforddi ond mae hyblygrwydd dysgu ar-lein a´r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael trwy learndirect yn golygu y gallwn ni gynnig ateb wedi´i deilwra´n arbennig i gefnogi pob cyflogwr."
Ychwanegodd Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: "Mae´r nifer cynyddol o weithwyr mudol yn golygu bod gweithlu Cymru´n newid ac mae´n wych bod cwmnïau megis R F Brooks yn gosod esiampl dda trwy sicrhau bod gan eu gweithwyr cyflogedig y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu swyddi´n ddiogel ac i integreiddio yn y cymunedau y maen nhw´n byw ynddyn nhw. Rydw i´n falch iawn bod learndirect wedi bod mor fuddiol ac wrth fy modd fod Coleg Gwent ac R F Brooks wedi dangos ymrwymiad sylweddol i Addewid y Cyflogwr ar Sgiliau Sylfaenol".
Adborth golyddol a newyddion i: sgriffiths@ufi.com Ffôn: 029 2043 6942
Mae ôl-rifynnau newyddion learndirect i´w cael ar www.learndirect.co.uk
© Ufi Cyf Chwefror 2008. Cedwyr pob hawl. Nod masnach cofrestredig o eiddo Ufi Cyfyngedig yw learndirect.
Roedd yr holl wybodaeth yn gywir ar adeg argraffu.