RYDYM YN DERBYN ENWEBIADAU AR GYFER CATEGORÏAU GWOBRAU CYRHAEDDIAD LEARNDIRECT 2008 AR HYN O BRYD:
| Categorïau Dysgwr Unigol | Pwy Ddylai Ymgeisio? |
|---|---|
| Gwobr Sgiliau ar gyfer Gwaith | Dysgwyr sydd wedi dilyn rhaglen ddysgu learndirect er mwyn dychwelyd i weithio. Dysgwyr cyflogedig sydd wedi cael cefnogaeth eu cyflogwyr i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect sydd wedi arwain at ddatblygu gyrfa a/neu fanteision i´r busnes. |
| Gwobr Cynnydd | Dysgwyr sydd wedi dilyn rhaglen ddysgu learndirect ac sydd bellach yn dysgu mwy er mwyn dilyn gyrfa neu ffordd o fyw newydd. |
| Gwobr Dysgwr Eithriadol | Unrhyw ddysgwyr sydd wedi cyflawni a llwyddo´n nodedig yn sgil dysgu learndirect a/neu sydd wedi goresgyn anableddau, amgylchiadau andwyol, neu sydd wedi ysbrydoli eraill i ddefnyddio learndirect. |
| Gwobr Unionlearn | Aelodau Undeb sydd wedi cael cefnogaeth eu cyflogwr i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect sydd wedi arwain at ddatblygiad gyrfa a/neu fanteision i´r busnes. Aelodau Undeb sydd wedi hybu learndirect trwy eu sefydliad. |
| Categorïau Busnes | Pwy Ddylai Ymgeisio? |
|---|---|
| Gwobr Cwmni | Busnesau sydd wedi cefnogi staff i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect ac sydd wedi cydnabod sut y gall learndirect gefnogi eu hamcanion busnes. |
| Gwobr Dysgu yn y Gwaith | Busnesau sydd wedi cefnogi staff i ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio Dysgu yn y Gwaith learndirect ac sydd wedi cydnabod sut y gall dysgu gefnogi eu hamcanion busnes. Unigolion sydd wedi defnyddio Dysgu yn y Gwaith learndirect i ddatblygu eu hunain a´r busnes y maen nhw´n gweithio iddo. |
| Categorïau Canolfannau Dysgu | Pwy Ddylai Ymgeisio? |
|---|---|
| Gwobr Canolfan Ddysgu learndirect | Canolfannau dysgu learndirect sydd wedi dangos perfformiad rhagorol er mwyn darparu gofal cwsmeriaid a chefnogaeth tiwtoriaid gwych i´w dysgwyr. |
| Gwobr Gweithio gyda Chyflogwyr | Canolfannau dysgu learndirect sy´n gweithio gyda busnesau lleol i gynorthwyo dysgwyr. |
| Gwobr Staff Canolfan learndirect | Staff a thiwtoriaid canolfannau learndirect sydd wedi darparu gofal cwsmeriaid a/neu gymorth tiwtoriaid gwych i´w dysgwyr. |
Ewch i www.learndirect.co.uk/awards i enwebu. 28 Mawrth 2008 yw´r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau. Cynhelir Seremoni Gwobrau Cymru ar 9 Gorffennaf 2008 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.