Amser arswydus - learndirect yn cynorthwyo rhieni gyda sgiliau sylfaenol
Nod `Where Did The River Go?`, llyfr o storïau i blant sydd ar gael am ddim gan learndirect, yw cynorthwyo rhieni a all deimlo nad yw eu siliau mathemateg a Saesneg yn ddigon da. Trwy ddarllen gyda´i gilydd, bydd rhieni a phlant yn elwa ar wella sgiliau llythrennedd a rhifedd hanfodol a fydd o fantais iddyn nhw yn y dyfodol.
Mae amser stori yn rhan annatod a hudolus o blentyndod. Mae´r cynorthwyo plant i ddysgu, yn ogystal â chryfhau´r cwlwm rhwng teulu. Ond mae nifer sylweddol o bobl yn cael anhawster i adrodd stori wrth i´w plant ddatblygu.
Mae ymchwil gan learndirect yn datgelu bod un rhiant o bob deg yn ei chael hi´n anodd deall y llyfrau y maen nhw´n darllen i´w plant. Ar yr un pryd, mae un rhiant o bob pump hefyd yn cyfaddef eu bod yn gweld tasgau Saesneg yn her. Maen nhw´n cyffesu eu bod yn dweud pethau eraill yn lle´r geiriau sy´n peri trafferth iddyn nhw, yn newid y stori neu´n cael eu plant i ddarllen darnau y maen nhw´n eu cael yn anodd.
Mae problemau mathemateg yn achosi hyd yn oed mwy o ofid, gydag un o bob tri yn sôn am drafferthion wrth gynorthwyo eu plant gyda´u gwaith cartref. Heb fawr o syndod, ffracsiynau a chanrannau sy´n achosi´r straen mwyaf. Yn anad dim, nod ¨Where Did The River Go?´ yw bod yn llyfr difyr i´w ddarllen ond hefyd mae´n rhoi cyfle i oedolion feddwl am sut y gallan nhw wella´u mathemateg a´u Saesneg os oes angen.
Ewch i wefan learndirect sef www.wheredidtherivergo.co.uk i lawrlwytho taleb i hawlio copi o ‘Where Did The River Go?´ am ddim. Mae´r llyfrau´n argraffiad cyfyngedig felly dim ond trwy´r canolfannau dysgu isod y gellir eu cael tra bo stoc ar gael:
Coleg Iâl - Canolfan Adnoddau Dysgu, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam, LL12 7AA, Ffôn: 01978 311794 Canolfan Adnoddau Dysgu Glannau Dyfrdwy, The Whitehouse, Ffordd Caer, Brychdyn, CH4 ODR Ffôn: 01244 522570
Coleg Castell-nedd Port Talbot – Canolfan Stryd y Frenhines, 28 Stryd y Frenhines, Castell-nedd, SA11 1DL Ffôn: 01639 648110 Coleg Abertawe – Y Ganolfan Ddysgu, Heol Tycoch, SA2 9EB, Ffôn: 01792 284000
Mae yna lyfrau mewn mannau eraill felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ffoniwch 029 20 436942 neu e-bostiwch sgriffiths@ufi.com.