O´r chwith i´r dde (o´r big i lawr): Enillwyr: Charles Constable, Peter Hope, Jan Osman, Christine Banks, Debra Sambrook, Barry Lewis (Airbus UK)
Enillwyr o Gymru yn dathlu
Mae pedwar dysgwr o Gymru, busnes a thiwtor learndirect yn dathlu eu llwyddiant ar ôl ennill yn Seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad learndirect Cymru 2007.
Rhoddodd Gwobrau Cyrhaeddiad cyntaf learndirect yng Nghymru gydnabyddiaeth i unigolion a busnesau sy´n mynd gam ymhellach i ddatblygu a gwella eu sgiliau eu hunain neu sgiliau eu gweithlu. Hefyd, amlygodd y Gwobrau y gwaith gwych y mae canolfannau dysgu learndirect a staff y canolfannau yn ei wneud yn eu cymunedau lleol, gan ymgysylltu â dysgwyr a´u cynorthwyo i gyflawni eu potensial.
Enillydd y Wobr Dysgu ar gyfer Cyflogaeth oedd Charles Constable o Drefynwy; Debra Sambrook o Wrecsam a enillodd y Wobr Cynnydd Unigol; Peter Hope o Bontypridd enillodd y Wobr Dysgu yn y Gwaith; Christine Banks o Gastell-nedd enillodd y Wobr Dysgwr Eithriadol; Airbus UK, Sir y Fflint a enillodd Wobr Cwmni learndirect; a Janice Osman sy´n diwtor learndirect yng Ngholeg Pontardawe a enillodd Wobr Staff Canolfan learndirect.
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt,: "Fel y Gweinidog dros Addysg dwi´n ymwybodol iawn o bwysigrwydd allweddol sgiliau a datblygu, nid yn unig o bersbectif economaidd, ond hefyd er mwyn ein cymhelliant a´n cyflawniad ein hunain."
"Mae´r Gwobrau Cyrhaeddiad cyntaf erioed hyn gan learndirect yn dathlu dysgu, yn cydnabod cyrhaeddiadau pobl sy´n dysgu gyda learndirect, sy´n hyfforddi busnesau gyda learndirect, a´r canolfannau sy´n eu cefnogi. Llongyfarchiadau i´r enillwyr i gyd ar eu llwyddiant."
Airbus UK yn cael Clod Uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyrhaeddiad learndirect
Derbyniodd Airbus UK gydnabyddiaeth o blith dros 1,700 o enwebiadau o bob cwr o´r wlad ac enillodd Glod Uchel yn y categori Gwobr Cwmni, sy´n cydnabod busnesau sy´n defnyddio learndirect i gynnig hyfforddiant i´w staff.
Mae Airbus UK, sydd wedi´i leoli yn Sir y Fflint, yn wneuthurwr awyrennau o fri. Dangosodd Airbus UK ymrwymiad i ddysgu ei weithlu trwy gefnogi gweithwyr cyflogedig i ddysgu gydol oes.
Mae´r ymrwymiad hwn i´w weld ymhellach gyda´r gwaith o ddatblygu Parthau Dysgu ar safle Brychdyn a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgu learndirect. Mae Airbus UK yn cynnig darpariaeth learndirect ar ei ddau safle yn y DU.