Mae gweithwyr yng nghanolfan ddosbarthu ASDA
yng Nghas-gwent yn gwneud dysgu yn flaenoriaeth
diolch i ganolfan ddysgu learndirect ar y safle a
sefydlwyd gyda chymorth Coleg Gwent. Gavin Shakesheff o ASDA yn astudio gyda learndirect yn y gwaith
Roedd angen rhaglen hyfforddi
hyblyg ar gyfer dros 1000 o staff
sy’n gweithio shifftiau parhaus
yng nghanolfan ddosbarthu ’r
archfarchnad ASDA yng Nghas-
gwent, ac ar ôl ymgynghori
â chynghorydd yng Ngholeg
Gwent, cyflwynwyd arddull
dysgu hyblyg learndirect i’r
manwerthwr.
Y Cynghorydd Datblygu
Pobl, Frank McMillan sy’n
cydgysylltu’r prosiect.Meddai:
“Awgrymodd y grwp sy’n
cynrychioli ein gweithwyr y dylid
agor canolfan ddysgu ar y
safle
a chyflwyno rhaglen hyfforddi i
roi cyfle i’r staff wella eu sgiliau.
“Mae cyrsiau learndirect yn
cynnwys amrywiaeth eang o
bynciau ac yn rhoi cyfle i ’r staff
ddysgu gan bwyll bach, gan
ddysgu yn ystod seibiannau,
cyfnodau tawel a hyd yn oed yn
eu hamser eu hunain gartref.
“Roedden ni ’n awyddus i
gydweithio â darparwr dysgu a allai fodloni ein holl anghenion. Mae rhai o’n staff yn dilyn cyrsiau
llythrennedd a rhifedd sylfaenol
tra bod eraill yn gweithio tuag
at gymwysterau’r Sefydliad
Arweinyddiaeth a Rheoli.
“Rydyn ni wedi agor canolfan
ddysgu bwrpasol ar y safle
yn cynnwys cyfrifiaduron a
mynediad i’r rhyngrwyd fel y
gall staff droi at eu cyrsiau ar
unrhyw adeg. Mae dros 40
aelod o staff eisoes wedi bwrw
iddi ac mae’r ymateb wedi bod
yn gadarnhaol iawn.”
Mae Roger Shakesheff, 60, o
Gasnewydd yn gweithio yn adran
rheoli stoc ASDA ac mae wedi
dechrau cwrs TG learndirect yn y ganolfan ddysgu newydd
yn ddiweddar. Meddai:
“Roeddwn i am ddysgu mwy
am gyfrifiaduron. Rwy ’n gwybod sut i ddefnyddio ’r rhaglenni rydw i eu hangen ar gyfer fy ngwaith, ond mae fy nealltwriaeth yn weddol sylfaenol.”
Hyfforddwr sy’n gweithio yn y
storfa yw Dave Hopkin, 54, ac
mae wedi dilyn nifer o gyrsiau
TG sylfaenol gyda learndirect. Meddai: “Rydw i wedi bod yn
cyrraedd y gwaith cyn i ’m shifft
gychwyn er mwyn gweithio
ar fy nghwrs ac rydw i wedi
defnyddio fy awr ginio i astudio
hefyd. Mae hyblygrwydd yr
arddull dysgu yn wych ac rydw
i bendant yn bwriadu gwneud
rhagor o gyrsiau.”
Gweithwyr ASDA yn astudio yn eu canolfan ddysgu learndirect ar y safle
Meddai Jeff Greenidge,
pennaeth learndirect yng
Nghymru: "Nod cyrsiau learndirect yw gwneud
dysgu’n haws ac yn fwy
hygyrch i unigolion a
busnesau. Mae bwlch sgiliau
sylweddol yng ngweithlu
Cymru a chyfrifoldeb cyflogwyr
yw cymryd camau i ddatrys y
sefyllfa hon.
“Nod learndirect yw
darparu hyfforddiant syml,
cyfleus a chost-effeithiol ac
mae’n galonogol iawn gweld
cyflogwyr a gweithwyr yn cael
budd
o’n strwythur hyblyg.”.