learndirect news heading banner
 

Gweithwyr o Gymru yn
cyflwyno dysgu i ASDA

Mae gweithwyr yng nghanolfan ddosbarthu ASDA yng Nghas-gwent yn gwneud dysgu yn flaenoriaeth diolch i ganolfan ddysgu learndirect ar y safle a sefydlwyd gyda chymorth Coleg Gwent.


Gavin Shakesheff o ASDA yn astudio gyda learndirect yn y gwaith

Roedd angen rhaglen hyfforddi
hyblyg ar gyfer dros 1000 o staff sy’n gweithio shifftiau parhaus yng nghanolfan ddosbarthu ’r archfarchnad ASDA yng Nghas- gwent, ac ar ôl ymgynghori â chynghorydd yng Ngholeg Gwent, cyflwynwyd arddull dysgu hyblyg learndirect i’r manwerthwr.

Y Cynghorydd Datblygu
Pobl, Frank McMillan sy’n
cydgysylltu’r prosiect.Meddai:
“Awgrymodd y grwp sy’n
cynrychioli ein gweithwyr y dylid
agor canolfan ddysgu ar y
safle a chyflwyno rhaglen hyfforddi i roi cyfle i’r staff wella eu sgiliau.

“Mae cyrsiau learndirect yn
cynnwys amrywiaeth eang o
bynciau ac yn rhoi cyfle i ’r staff
ddysgu gan bwyll bach, gan
ddysgu yn ystod seibiannau,
cyfnodau tawel a hyd yn oed yn
eu hamser eu hunain gartref.

“Roedden ni ’n awyddus i
gydweithio â darparwr dysgu a allai fodloni ein holl anghenion. Mae rhai o’n staff yn dilyn cyrsiau

  llythrennedd a rhifedd sylfaenol tra bod eraill yn gweithio tuag at gymwysterau’r Sefydliad
Arweinyddiaeth a Rheoli.

“Rydyn ni wedi agor canolfan
ddysgu bwrpasol ar y safle
yn cynnwys cyfrifiaduron a
mynediad i’r rhyngrwyd fel y
gall staff droi at eu cyrsiau ar
unrhyw adeg. Mae dros 40
aelod o staff eisoes wedi bwrw iddi ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.”

Mae Roger Shakesheff, 60, o
Gasnewydd yn gweithio yn adran rheoli stoc ASDA ac mae wedi dechrau cwrs TG learndirect yn y ganolfan ddysgu newydd yn ddiweddar. Meddai:
“Roeddwn i am ddysgu mwy
am gyfrifiaduron. Rwy ’n gwybod sut i ddefnyddio ’r rhaglenni rydw i eu hangen ar gyfer fy ngwaith, ond mae fy nealltwriaeth yn weddol sylfaenol.”

  Hyfforddwr sy’n gweithio yn y storfa yw Dave Hopkin, 54, ac mae wedi dilyn nifer o gyrsiau TG sylfaenol gyda learndirect. Meddai: “Rydw i wedi bod yn cyrraedd y gwaith cyn i ’m shifft gychwyn er mwyn gweithio ar fy nghwrs ac rydw i wedi defnyddio fy awr ginio i astudio hefyd. Mae hyblygrwydd yr arddull dysgu yn wych ac rydw i bendant yn bwriadu gwneud rhagor o gyrsiau.”

ASDA employees getting down to their studies at their on-site learndirect learning centre Gweithwyr ASDA yn astudio yn eu canolfan ddysgu learndirect ar y safle

Meddai Jeff Greenidge, pennaeth learndirect yng Nghymru: "Nod cyrsiau learndirect yw gwneud
dysgu’n haws ac yn fwy hygyrch i unigolion a busnesau. Mae bwlch sgiliau sylweddol yng ngweithlu Cymru a chyfrifoldeb cyflogwyr
yw cymryd camau i ddatrys y sefyllfa hon.

“Nod learndirect yw darparu hyfforddiant syml, cyfleus a chost-effeithiol ac mae’n galonogol iawn gweld cyflogwyr a gweithwyr yn cael budd o’n strwythur hyblyg.”