newyddion learndirect banner ar Ufi logo
  Mai 2005  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2
Rhagair Gan Bennaeth Ufi Cymru
 
 
Wyneb newydd ar fwrdd U?
 
  Tu mewn…tudalen 3
Wyneb newydd ar Fwrdd Ufi
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 4
Elusennau Cymru yn cynnig
cyfleoedd trwy e-ddysgu
 
 
Dod â dysgu'n agosach i'r cartref
 
  Tu mewn…tudalen 5
Dod â dysgu’n agosach
i’r cartref
 
 
Tami yn cael cwrs carlam mewn TG
 
  Tu mewn…tudalen 5
Tami yn cael cwrs carlam
mewn TG
 
 
Peilot Credydau a Chymwysterau
 
  Tu mewn…tudalen 6
Peilot Credydau a
Chymwysterau
 
 

Rhagair gan Bennaeth Ufi Cymru

Jeff Greenidge, Pennaeth Ufi Cymru

Jeff Greenidge, Pennaeth Ufi Cymru

Rhwydwaith cryf
I wireddu’r amcanion rydyn ni wedi’u gosod ar gyfer learndirect, mae angen i ni weithio gyda phartneriaid sy’n cytuno â’n cenhadaeth ac yn barod i symud i’r un cyfeiriad ar yr un cyflymder. Mae angen i ni sicrhau bod ein rhwydwaith yn drefnus fel ei fod yn darparu ein strategaeth ledled Cymru, er mwyn cynnig y cyfleoedd gorau posib i ddysgwyr ym mhob cwr o’r wlad.

Diolch a chroeso
I gloi, hoffwn ddiolch i Huw Evans OBE am ei gyfraniad at ddatblygiad strategol Ufi Cymru, wrth iddo adael Bwrdd Ufi. Datblygodd Huw nifer o drefniadau newydd yng Nghymru, yn cynnwys y model darparu newydd a pherthynas newydd gyda Bwrdd Ufi a’r Cyngor Cenedlaethol, ELWa. Yn sgil hynny, hoffwn groesawu aelod newydd i Fwrdd Ufi Cymru, sef Brynley Davies, Pennaeth Coleg Ystrad Mynach.

Mae’r rhifyn hwn o Newyddion yn cynnwys pob math o
straeon sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o waith mae
Ufi yn ei wneud yng Nghymru a’r effaith mae learndirect
yn ei chael.

Gwerth am arian
Mae gwerth am arian wrth wraidd popeth a wnawm ac mae’n rhaid i ni fod yn rhagweithiol wrth wario arian cyhoeddus i sicrhau bod y manteision yn cael eu rhannu mor eang â phosib.

Mae’r drwydded newydd a
gyflwynwyd i ddarparwyr learndirect yng Nghymru,
yn cynnig mwy o dryloywder o ran deall lle a sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario ar weithgarwch learndirect.
Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn nod Ufi Cymru o fod yn sefydliad sy’n ychwanegu gwerth.

Gweithio gyda rhanddeiliaid
Wrth weithio gyda rhanddeiliaid, gallwn symud yn nes at ein hamcanion gyda dealltwriaeth gadarn o’r ffordd rydyn ni’n cyflawni rhan o ’r agenda ddysgol ehangach ar gyfer pobl Cymru.

Mae ELWa, ac yna Llywodraeth
Cynulliad Cymru,wedi cymeradwyo £650,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer 2004/05, i gefnogi’r gwaith o ddarparu
rhaglenni sy’n gysylltiedig â learndirect yng Nghymru.

Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gydag ELWa i sicrhau bod y ddarpariaeth yn dryloyw ac yn canolbwyntio ar anghenion y dysgwr bob amser.

Canolbwyntio ar gryfderau
Mae mwy na 60,000 o
  ddysgwyr wedi bod ar gwrs learndirect yng Nghymru
hyd yn hyn, gyda thros 11,000 yn dilyn bron i 18,000 o gyrsiau yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae Ufi
Cymru yn gweithio’n llwyddiannus gyda darparwyr i ddiwallu anghenion
unigolion, cymunedau a busnesau ledled Cymru. I sicrhau ein bod yn cynnal
ac yn datblygu’r safonau uchel hyn o ddarpariaeth
mae’n rhaid i ni barhau i
ganolbwyntio ar ein cryfderau.


Targedu dysgwyr penodol
Cryfder learndirect yw ei natur hyblyg a gallwn ni fanteisio’n llawn ar hyn i
dargedu ein marchnad yn strategol. Mae’n bosib teilwra learndirect i gyd-fynd ag anghenion busnesau,
cymunedau ac unigolion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Gellir ei
dargedu at ddysgwyr sy’n anodd eu cyrraedd a gall oresgyn rhwystrau a allai
atal pobl rhag dysgu gyda darparwyr addysg traddodiadol.

Gall unigolion deimlo eu bod yn cael eu heithrio am nifer o resymau - daearyddol, cymdeithasol neu bersonol
ond gyda learndirect, gallwn ni weithio i’w cynnwys a galluogi iddyn nhw gymryd rhan.
           
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig Hafan Hafan

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6 |  Saesneg