Mae Bryn Davies wedi bod yn
gweithio gydag Ufi a learndirect ers dyddiau cynnar y sefydliad.
Meddai: “Fe wnaeth cyrsiau ar-lein
Ufi ar graff arna i yn syth pan gawsant
eu cyflwyno gyntaf i ddarparwyr
addysg yng Nghymru ac roeddwn i’n
awyddus i sicrhau bod Coleg Ystrad
Mynach yn rhan o rwydwaith darparu learndirect yng Nghymru.”
Apêl learndirect
“Mae’r amrywiaeth eang o gyrsiau
learndirect sydd ar gael a natur
hyblyg y strwythur dysgu yn galluogi
darparwyr i gyrraedd amrywiaeth o
gynulleidfaoedd. Mae gweithgarwch
learndirect wedi cael ei dargedu’n
llwyddiannus at ddysgwyr
anhraddodiadol yn y gymuned, myfyrwyr coleg
prif ffrwd fel rhan o’r cwricwlwm ac
at fusnesau yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
“Mae learndirect yn cynnig dull arloesol o ddysgu ynghyd ag arddull dysgu unigryw, ac mae llwyddiant ei ddarpariaeth yng Nghymru hyd yn hyn wedi bod yn hwb mawr i Gymru wrth iddi symud tuag at ei nod o gael ei hadnabod fel‘ y Wlad sy’n Dysgu’.
Wyneb newydd
ar fwrdd Ufi
Penodwyd Bryn Davies,Pennaeth Coleg Ystrad Mynach,
i Fwrdd Ufi i gynrychioli buddiannau learndirect yng
Nghymru.
Canolbwyntio ar ragoriaeth
“Mae Ufi Cymru wedi
cyflawni llawer
iawn ers ei sefydlu yn 2000, gan
ehangu’r farchnad Addysg i Oedolion
a gwneud
cyfleoedd dysgu’n fwy
hygyrch i bobl ledled Cymru.
“Er mwyn sicrhau parhad y llwyddiant
hwn a bod safonau’n cael eu
gwella’n barhaus, mae’n rhaid i Ufi
ganolbwyntio’n gadarn ar ragoriaeth
ac ar ei ddarparwyr o’r safon uchaf.
“Wrth wneud hyn, bydd safonau’r
ddarpariaeth ledled Cymru yn codi, gan arwain at lu o gyfleoedd newydd
i ehangu a chryfhau cyrhaeddiad learndirect .”
Profiad helaeth
Fel Dirprwy Gadeirydd NIACE Dysgu
Cymru (y Sefydliad Cenedlaethol dros
Addysg Barhaus i Oedolion), ac aelod
o Bwyllgor Rhanbarthol ELWa (Dysgu
ac Addysgu Cymru) a chynrychiolydd
Cymru ar Fwrdd y Cyngor Sgiliau Sector
Dysgu Gydol Oes, bydd Bryn Davies
yn cynnig gwybodaeth eang am yr heriau
a’r cyfleoedd sy’n
wynebu darparwyr addysg yng Nghymru
i Fwrdd Ufi.
Gan gyfuno’r wybodaeth hon gyda’i brofiad masnachol yn sgil bod yn aelod o fyrddau dwy Siambr Fasnach a rheoli cwmni hyfforddiant masnachol, mae gan Bryn Davies ddealltwriaeth o’r
amrywiaeth eang o faterion sy’n dylanwadu ar ac yn
cyfeirio datblygiad Ufi fel sefydliad.
Meddai:
“Mae gen i lawer o hyder yn learndirect
fel ffordd o ddysgu ac yn Ufi
fel sefydliad ac rydw i’n edrych
ymlaen yn fawr at gyfrannu at lwyddiant
learndirect wrth iddo
barhau i ddiwallu anghenion dysgwyr
a busnesau ledled y wlad.”
Diwallu anghenion
dysgwyr Cymru
Mae Bryn Davies wedi cytuno gyda
Bwrdd Ufi y dylai datblygiad strategol
Ufi Cymru gael ei gynorthwyo gan Is-
Bwyllgor Ufi Cymru. Bydd y pwyllgor
hwn yn sicrhau bod learndirect yn
datblygu yng Nghymru i ddiwallu
anghenion dysgwyr Cymru a
Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd yn
monitro ac yn cynghori ar ddatblygiad
strategol learndirect yng Nghymru.
Meddai Jeff Greenidge, pennaeth learndirect yng Nghymru: “Rydyn ni’n falch iawn y bydd Bryn Davies
yn cynrychioli Cymru ar fwrdd Ufi.
Mae ganddo brofiad helaeth yn
y sector addysg a’r sector masnachol
a bydd yn cynnig agwedd gytbwys a dealltwriaeth
o faterion sy ’n benodol i Gymru
i Fwrdd Ufi.”