Y myfyriwr Brian Flower ym Mhen-y-bont ar Ogwr
a gwirfoddol,ar ôl y prosiect, felly mae hon yn ffordd
wych o fagu hyder a gwella sgiliau a
hybu rhagolygon gwaith o bosib.
“Roedd gan lawer o’n haelodau
yrfaoedd proffesiynol sydd wedi cael
eu hamharu gan salwch, ac mae’r
cyfle i hogi sgiliau trwy gwblhau cwrs
ar lefel a chyflymder o’u dewis, wedi
gwneud gwahaniaeth sylweddol i les
yr unigolion.”
Meddai Jeff Greenidge, pennaeth learndirect yng Nghymru: “Gall technoleg gwybodaeth fod yn ddull
cyfathrebu pwerus ac
mae’n wych gweld unigolion yn grymuso eu hunain trwy ddatblygu sgiliau newydd. Nod learndirect yw ehangu mynediad
i addysg i gymunedau a busnesau
ledled Cymru ac rwy’n falch iawn bod
ein strwythur dysgu hyblyg o fudd i
bob math o grwpiau a sefydliadau ym
mhob cwr o Gymru.”
Mae nifer o elusennau yng Nghymru yn ymgorffori dysgu
anffurfiol yn eu rhaglenni cefnogi ac yn defnyddio cyrsiau learndirect i gynyddu hyder a lefelau sgiliau ymhlith eu
haelodau.
Mae Grŵp Cefnogi Dysffasia y
Gymdeithas Strôc ym Mhen-y-bont
ar Ogwr, sy’n cynnig cefnogaeth
ac amrywiaeth o weithgareddau i unigolion
sy’n dioddef sgil-effeithiau
strôc, yn addysgu pobl i ddefnyddio
cyfrifiaduron gyda learndirect,
er mwyn annog unigolion ag anawsterau
lleferydd ac iaith i gyfathrebu.
Mae Trefnydd y Grŵp, Karyl Carter,
wedi gweithio’n agos gyda Choleg
Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn i aelodau’r
grŵp allu cymryd rhan yn y
rhaglen. Fe gyflwynodd hi addysg
TG i ’r grŵp dair blynedd
yn ôl fel arbrawf
ac mae wedi cael canlyniadau
rhagorol. Meddai:
“Term meddygol yw dysffasia
sy’n disgrifio amhariad
ar y lleferydd ac iaith yn dilyn strôc.
Mae rhai ’n cael anawsterau’n
darllen, yn ysgrifennu, yn deall neu’n
dweud yr hyn maen nhw am ei ddweud.
Rydyn yn
chwilio’n barhaus am
gyfleoedd fydd yn galluogi ac
yn annog aelodau i gyfathrebu. Rydyn
ni’n canolbwyntio ar wella sgiliau
sydd angen iaith – ysgrifenedig
neu lafar, ac mae cyflwyno aelodau
i gyrsiau
cyfrifiadurol gyda learndirect
wedi bod yn ffordd effeithiol iawn
o wella sgiliau a magu hyder.
“Mae aelodau ein grŵp
cyfrifiadurol cyntaf wedi cwblhau
eu cyrsiau bellach ac wedi ennill
cymhwyster TG lefel 2, sy’n
gamp wych ac yn hwb
mawr i’w hyder.”
Mae’r prosiect Kindness in
Mind yn Sir y Fflint yn defnyddio
addysg gyfrifiadurol mewn ffordd
debyg,
Alyson Jones, tiwtor sgili au sylf aenol
a’r myfyriwr Peter Harris y ng Ngrwp
Cefnogi ’r Gymdeithas Strôc ym Mhen-y -
bont ar Ogwr
gan
weithio gyda learndirect a Choleg
Glannau Dyfrdwy i alluogi aelodau i
wella eu sgiliau a chynyddu eu hyder
mewn amgylchedd hyblyg nad yw’n
fygythiol.
Mae prosiect Kindness in Mind, a sefydlwyd
ac a reolir gan Jude Elliott o’r
Wyddgrug, yn dod â menywod â
phroblemau iechyd meddwl o amrywiaeth
o gefndiroedd at ei gilydd, i ddatblygu
sgiliau personol mewn amgylchedd cefnogol.
Nod Ms Elliott, sy’n gyn athrawes
ac wedi hyfforddi fel gweithwraig
gymdeithasol, yw cynnig amrywiaeth
o
gyfleoedd i fenywod i’w galluogi
i fagu hyder ac ymddiriedaeth a
chyrraedd targedau personol.
Meddai:
“Fe wnaethom ni benderfynu cyflwyno
cyrsiau cyfrifiadurol
i’n rhaglen tua deunaw mis yn
ôl ac roedden ni’n hapus
iawn gyda chynnydd llawer
o’n haelodau.
“Mae wyth o’r menywod wedi cofrestru ar gyrsiau learndirect ac mae nifer ohonyn nhw bellach
yn gweithio drwy’r grwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd. Mae llawer o fenywod yn mynd allan i ddod o
hyd i waith cyflogedig