Mae gweision sifi l ledled Cymru yn mynd ati’n ddyfal i wella’u
gwybodaeth a’u sgiliau hanfodol. Cynrychiolwyr PCS Peter Harris, Jeff Evans ac Anne Jenkins gyda’r Aelod Cynulliad Carwyn
Jones.
Mae Cronfa Ddysgu
Undebau Cymru (WULF)
Llywodraeth Cynulliad
Cymru yn cyllido prosiect
arloesol gan Undeb y
Gwasanaethau Cyhoeddus
a Masnachol (PCS). Nod
Prosiect y PCS yw asesu
prinder sgiliau gweision
sifi l a mynd i’r afael â’r
rhain drwy wella sgiliau
staff ar gymysgedd o
gyrsiau traddodiadol a learndirect.
Mae llythrennedd a rhifedd
yn sgiliau hanfodol a dengys
ymchwil nad oes gan 25%
o oedolion yng Nghymru
sgiliau llythrennedd Lefel 1;
ac nad oes gan 53% sgiliau
rhifedd Lefel 1. Mae’r sgiliau
sylfaenol hyn, ynghyd â
gwybodaeth TG, yn sgiliau
hanfodol sydd eu hangen
er mwyn gallu gweithio a
datblygu yn y gwaith.
Eglurodd Gweithiwr Prosiect
Sgiliau Sylfaenol PCS, Anne
Jenkins: “Roeddem ni’n
ymwybodol bod cyfran
fawr o oedolion yn cael
anhawster gyda sgiliau
sylfaenol ac roeddem ni
am wneud popeth o fewn
ein gallu i sicrhau bod gan
weithwyr cyfl ogedig yr holl
gymorth sydd ei angen
arnyn nhw. Yn gyntaf roedd
yn rhaid i ni benderfynu ar
hyd a lled y sefyllfa drwy
sicrhau bod cymaint o staff
â phosib yn mynd drwy’r
broses sgrinio”.
Yn sgil y stigma sy’n
gysylltiedig â hyfforddiant
sgiliau sylfaenol, roedd
staff yn bryderus yn y
lle cyntaf y byddent yn
cael eu hystyried yn dangyfl
awnwyr ac roeddent yn
amharod i gymryd rhan yn
y prosiect. Er mwyn annog
mwy o bobl i gymryd rhan,
hysbysebodd PCS bod
cyrsiau learndirect ar gael
i bawb a oedd yn cymryd
rhan mewn profi on sgrinio. “mae cyrsiau learndirect wedi bod yn gymorth
gwerthfawr wrth hyrwyddo’r
profi on sgrinio hyn, ac mae
llawer wedi manteisio ar y
cyfl e i fynd ar y cyrsiau gyda
103 o ddysgwyr yn dewis
625 cwrs dros gyfnod o 2
fi s.”
Ychwanegodd Jeff
Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru:
“Rhaid defnyddio TG i
hyrwyddo llythrennedd
a rhifedd. Does neb yn
hoffi meddwl eu bod yn
ddarllenwyr neu ysgrifenwyr
gwaeth na’r cyffredin, ond
mae llai o gywilydd wrth
gyfaddef nad ydych wedi
meistroli TG eto. Mae
denu staff i gymryd rhan
yn dalcen caled ond mae
defnyddio TG i ddarparu
Sgiliau Sylfaenol wedi bod
wrth wraidd llwyddiant y
prosiect. Mae learndirect
yn falch iawn o gynorthwyo’r
Undeb PCS i ddymchwel
rhwystrau i ddysgu.
Os ydych chi am gael
rhagor o wybodaeth am
Brosiect PCS, ffoniwch
Anne Jenkins, Gweithiwr
Prosiect Sgiliau Sylfaenol ar
029 2066 6363 neu ewch i
www.pcs.org.uk.