Coleg Abertawe yn Cipio Gwobr
learndirect am gyfl awni mewn
Technoleg Dysgu a Gwybodaeth
Mae Coleg Abertawe yn dathlu ei lwyddiant rhagorol yng Ngwobrau Blynyddol y fforwm,
a gynhaliwyd yng Ngwesty Hilton Caerdydd fel rhan o gynhadledd fl ynyddol fforwm
Cyfl awni Dyheadau Mawr.
Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru yn cyfl wyno Gwobr ILT i gynrychiolwyr Coleg Abertawe
Mae Gwobrau Blynyddol fforwm yn
cydnabod llwyddiant rhagorol mewn
sefydliadau Addysg Bellach ynghyd
ag amlygu hyd a lled y ddarpariaeth a
chydnabod cydweithio pwysig rhwng
sefydliadau a phartneriaid.
Roedd Coleg Abertawe’n fuddugol
mewn cystadleuaeth galed, ac
enillodd y wobr drwy ddefnyddio
Technoleg Dysgu a Gwybodaeth yn
llwyddiannus i ategu a gwella profi ad
myfyrwyr ESOL [English for Speakers
of Other Languages]
“Rydym ni’n ymrwymedig yma yng
Ngholeg Abertawe i ddatblygu a
chodi proffi l Technoleg Dysgu a
Gwybodaeth yn barhaus yn ein
hamgylchedd dysgu ac addysgu
ein hunain a chyda’n partneriaid,”
meddai Angelo Conti, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Technoleg Dysgu a
Gwybodaeth. “Roedd ennill y wobr
hon yn dipyn o anrhydedd i’r tîm i
gyd.”
Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth
learndirect yng Nghymru “Mae Coleg
Abertawe wedi defnyddio
Technoleg Dysgu a Gwybodaeth yn
llwyddiannus dros ben i gynorthwyo
unigolion nad ydynt yn siarad Saesneg
fel eu hiaith gyntaf i feithrin sgiliau ac
integreiddio’n well yn y cymunedau y
maent yn byw ynddynt”.
“Rwy’n falch iawn bod Coleg
Abertawe wedi’i gydnabod fel hyn,”
ychwanegodd y Pennaeth, Maxine
Room.