learndirect news heading banner with Ufi logo
  Awst 2007  
  YN Y RHIFYN HWN . . .  
  Tu mewn…tudalen 2
e-ddysgwr learndirect yn
ysbrydoli eraill

 
 
Foreword from the Head of Ufi Cymru
 
  Tu mewn…tudalen 3
Coleg Abertawe yn dathlu ei
lwyddiant rhagorol
 
 
Foreword from the Head of Ufi Cymru
 
  Tu mewn…tudalen 4
Dyw Sarah methu rhoi’r gorau
i ddysgu...
 
 
New skills open doors for Sian
 
  Tu mewn…tudalen 5
Y brand learndirect
 
 
Hard work pays off for Debra
 
  Tu mewn…tudalen 6
Rhagair gan Gadeirydd Ufi
Cymru
 
 
A joined up approach to delivering work-based learning
 
 
Cynnydd a Chyfl awniadau 06/07 - Gan Gadeirydd Ufi Cymru:


Cadeirydd Ufi Cymru, Bryn Davies yn y Gynhadledd

Wrth i fl wyddyn
academaidd arall ddirwyn
i ben, mae Bryn Davies,
Pennaeth Coleg Ystrad
Mynach ac Aelod o Fwrdd
Ufi yn myfyrio ar gynnydd
Ufi Cymru a’r rhwydwaith
learndirect yng Nghymru
dros y fl wyddyn ddiwethaf
ac yn edrych ymlaen at
2007/08..

Mae dros 100,000 o bobl yng
Nghymru wedi cyfl awni cyrsiau learndirect ers iddo ddechrau yn 2000. Dengys yr adroddiadau diweddaraf bod lefelau boddhad
dysgwyr yng Nghymru wedi gwella’n sylweddol, gyda 89% o ddysgwyr yn cael blas go iawn ar eu profi ad
dysgu learndirect yn 06/07.

O’r 19,000 o ddysgwyr hyd yma eleni, mae bron i 7,000 ag anghenion sgiliau sylfaenol neu wedi gadael
yr ysgol heb TGAU. Mae hyn yn effeithio’n sylweddol ar fl aenoriaethau ac anghenion sgiliau yng Nghymru.

 

Cynhadledd Cymru

learndirect; Gwella Sgiliau yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Ufi Cymru Gynhadledd Cymru gyfan
yng Nghaerdydd. Llwyddodd
y Gynhadledd i ddod â 120 o
unigolion at ei gilydd o amrywiaeth o ddarparwyr ac asiantaethau addysg i rwydweithio a thrafod y
posibiliadau a gynigir drwy weithio mewn partneriaeth â learndirect.

Roedd y digwyddiad yn gyfl e i bartneriaid ddeall y blaenoriaethau a’r ffactorau cyffredin sy’n llywio
polisïau Ufi Cymru a’r Adran
Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfl e i Ufi Cymru ddatblygu ymgyrch hirdymor
i gyfathrebu gweledigaeth a grym Ufi Cymru i gynulleidfa wedi’i thargedu.

I ddathlu’r ffaith y llwyddwyd i
gyrraedd 100,000 o ddysgwyr ledled Cymru, cydnabuwyd 11 o ddysgwyr
yn y Gynhadledd am eu cyfl awniadau dysgu a’u cyfraniad tuag at lwyddiant
learndirect. Yn y Gynhadledd hefyd, bu darparwyr learndirect o amrywiaeth o gefndiroedd yn arddangos enghreifftiau unigol o arferion da mewn amrywiaeth o weithdai.

Hoffwn ddiolch i dîm Ufi

 

Cymru am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i
ddatblygu sgiliau’r darparwyr sy’n bartneriaid iddynt. Mae cyfradd foddhad o 83% yn dangos bod y cymorth yn cael ei werthfawrogi ond rwy’n gwybod eu bod yn anelu at gyfradd foddhad o 90% gan eu partneriaid a’u rhanddeiliaid y fl wyddyn nesaf.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r rhwydwaith learndirect mewn sefyllfa dda i gynorthwyo i wireddu’r agenda ddysgu yng Nghymru a chynorthwyo i roi Amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar
waith.

Bydd Ufi Cymru yn parhau i fod yn greadigol ac yn arloesol ac ategu
mecanweithiau darparu cyfredol, gan geisio sicrhau darpariaeth mor ddarbodus â phosibl, yn enwedig o ystyried potensial dysgu ar y we i newid costau a mynediad i ddysgu’n
sylweddol.

Bydd y camau gweithredu penodol ar gyfer 07/08 yn canolbwyntio ar ehangu learndirect ymhellach i gymunedau a busnesau ledled Cymru. Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn datblygu ac yn ennill cymwysterau.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r rhifyn hwn o Newyddion ac edrychaf
ymlaen at weithio gyda chi i wella sgiliau a chyfl eoedd dysgu pobl yng Nghymru.

 

           
Argraffu'r dudalen Printer Icon Yn ôl i'r brig Top of Page Arrow Hafan back to the home page

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6

 
   
   
   
   
           

© UFI Ltd August 2007. All rights reserved. learndirect is a registered tradwmark of UFI Ltd. All information correct at time of going live.