learndirect news heading banner
  Chwefror 2006  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2 Cyflwyno tîm Ufi Cymru  
 

 
  Tu mewn…tudalen 3
Aelod y Bwrdd yn pennu cyfeiriad 2006
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 4
Tystysgrif lefel 3 learndirect mewn cymorth i e-ddysgwyr
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Arlunydd lleol yn ceisio gwella’i busnes gyda learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Gweithio shifft learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 6
Nick Ainger AS yn mynd
ar-lein gyda phobl leol

 
 

learndirect yn cefnogi hyfforddiant athrawon yng Ngholeg Iâl

Mae staff Coleg Iâl ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) wedi cynnwys cyrsiau learndirect yn eu rhaglen Tystysgrif mewn Addysg i Raddedigion (TAR) Addysg Uwch i gynorthwyo myfyrwyr addysg i gydymffurfio â’r safonau gofynnol o ran llythrennedd a rhifedd.


Sarah Williams, Rheolwraig Partneriaeth learndirect Coleg Iâl, yn cynorthwyo myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro ar gwrs learndirect

Meddai Sarah Williams, Rheolwraig Partneriaeth learndirect Coleg Iâl: “Rydym yn defnyddio profion Geiriau a Sgiliau Rhifau learndirect i gofnodi lefel sgiliau pob myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro ac rydym yn dewis cwrs learndirect ar eu cyfer lle’n briodol i wella eu sgiliau. Yn y pen draw mae modd i fyfyrwyr ennill Tystysgrifau mewn Llythrennedd a Rhifedd i Oedolion a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn dilysu eu sgiliau level 2.

“Rhaid i bob myfyriwr basio cymhwyster lefel 2 i brofi ei allu ac mae learndirect wedi cynnig modd hyblyg a chyfleus i ni allu sicrhau bod hyn yn digwydd.

“Mae learndirect yn ei hanfod yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr



 

ymgymryd â phrofion sgiliau yn eu hamser eu hunain a dilyn rhaglen ddysgu bersonol er mwyn medru cyrraedd y lefel sgiliau gofynnol.”

Mae pob myfyriwr sy’n astudio ar gyfer TAR yng Ngholeg Iâl yn cofrestru ar gwrs learndirect er mwyn ennill profiad o ddysgu ar-lein, ac mae llawer o fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athro yn gwerthuso deunydd learndirect er mwyn ei ddefnyddio gyda’u dysgwyr eu hunain.

Meddai Sarah: “Mae un modiwl o’r rhaglen TAR yn gofyn i ddysgwyr gynhyrchu 10 awr o ddeunyddiau dysgu hyblyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi defnyddio cyrsiau learndirect i wneud

 

hyn. Mae rhai o’n dysgwyr wedi elwa’n bersonol ar gyrsiau TG  learndirect hefyd, gan wella eu sgiliau yn eu hamser eu hunain.

“Mae learndirect wedi’n galluogi ni i gydymffurfio â nifer o ofynion y rhaglen TAR ac wedi galluogi’n myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athro i arbrofi gydag arddull hyblyg dysgu ar-lein. Mae learndirect yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau hyblyg o’r radd flaenaf, ac maen nhw’n yn dod yn rhan bwysig o’r amrywiaeth o ddulliau dysgu.”

Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Fel cyn-athro, rwy’n ymwybodol o’r angen i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr. Dwi wrth fy modd bod myfyrwyr rhaglen TAR Coleg Iâl yn cael y profiad o ddysgu ar-lein ac o ddefnyddio cyrsiau learndirect. Maen nhw nid yn unig ar eu hennill, ond gallant hefyd werthuso’r cyrsiau hyn i’w defnyddio gyda’u myfyrwyr ar ôl iddynt gymhwyso fel athrawon.”


 
 
 
       
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6   Saesneg