learndirect yn cefnogi hyfforddiant athrawon yng Ngholeg Iâl
Mae staff Coleg Iâl ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) wedi cynnwys cyrsiau learndirect yn eu rhaglen Tystysgrif mewn Addysg i Raddedigion (TAR) Addysg Uwch i gynorthwyo myfyrwyr addysg i gydymffurfio â’r safonau gofynnol o ran llythrennedd a rhifedd. Sarah Williams, Rheolwraig Partneriaeth learndirect Coleg Iâl, yn
cynorthwyo myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro ar gwrs learndirect
Meddai Sarah Williams, Rheolwraig Partneriaeth learndirect Coleg Iâl: “Rydym yn defnyddio profion Geiriau a Sgiliau Rhifau learndirect i gofnodi lefel sgiliau pob myfyriwr sy’n hyfforddi i fod yn athro ac rydym yn dewis cwrs learndirect ar eu cyfer lle’n briodol i wella eu sgiliau. Yn y pen draw mae modd i fyfyrwyr ennill Tystysgrifau mewn Llythrennedd a Rhifedd i Oedolion a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn dilysu eu sgiliau level 2.
“Rhaid i bob myfyriwr basio cymhwyster lefel 2 i brofi ei allu ac mae learndirect wedi cynnig modd hyblyg a chyfleus i ni allu sicrhau bod hyn yn digwydd.
“Mae learndirect yn ei hanfod yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr
ymgymryd â phrofion sgiliau yn eu hamser eu hunain a dilyn rhaglen ddysgu bersonol er mwyn medru cyrraedd y lefel sgiliau gofynnol.”
Mae pob myfyriwr sy’n astudio ar gyfer TAR yng Ngholeg Iâl yn cofrestru ar gwrs learndirect er mwyn ennill profiad o ddysgu ar-lein, ac mae llawer o fyfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athro yn gwerthuso deunydd learndirect er mwyn ei ddefnyddio gyda’u dysgwyr eu hunain.
Meddai Sarah: “Mae un modiwl o’r rhaglen TAR yn gofyn i ddysgwyr gynhyrchu 10 awr o ddeunyddiau dysgu hyblyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi defnyddio cyrsiau learndirect i wneud
hyn. Mae rhai o’n dysgwyr wedi elwa’n bersonol ar gyrsiau TG learndirect hefyd, gan wella eu sgiliau yn eu hamser eu hunain.
“Mae learndirect wedi’n galluogi ni i gydymffurfio â nifer o ofynion y rhaglen TAR ac wedi galluogi’n myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athro i arbrofi gydag arddull hyblyg dysgu ar-lein. Mae learndirect yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau hyblyg o’r radd flaenaf, ac maen nhw’n yn dod yn rhan bwysig o’r amrywiaeth o ddulliau dysgu.”
Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Fel cyn-athro, rwy’n ymwybodol o’r angen i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr. Dwi wrth fy modd bod myfyrwyr rhaglen TAR Coleg Iâl yn cael y profiad o ddysgu ar-lein ac o ddefnyddio cyrsiau learndirect. Maen nhw nid yn unig ar eu hennill, ond gallant hefyd werthuso’r cyrsiau hyn i’w defnyddio gyda’u myfyrwyr ar ôl iddynt gymhwyso fel athrawon.”