Mae Ufi Cymru wedi ail-strwythuro’i staff yn ddiweddar, ac mae sawl wyneb a swydd newydd bellach yn rhan o’r tîm yng Nghymru. Jeff Greenidge sydd bellach yn cyfarwyddo gweithrediadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac mae gan Phillip Lloyd gyfrifoldeb am berfformiad busnesau a pherthynas rhwng busnesau yng Nghymru yn rhinwedd ei swyddogaeth newydd fel Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol Cymru. Meddai Mr Lloyd: “Bydda’ i’n gyfrifol am gyfarwyddo perfformiad busnesau a datblygu gallu rhwydwaith learndirect i gynorthwyo rhagor o ddysgwyr ar fwy o gyrsiau.”
Phillip Lloyd,
Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol
Angela Fomison,
Rheolwraig Polisi
Jon Jones,
Cynghorydd Busnes
y Rhwydwaith
Emma Harvey,
Hyfforddwraig Busnes
y Rhwydwaith
Louise Jones,
Cydgysylltydd Marchnata
a Chysylltiadau Cyhoeddus
Owain Jenkins,
Gweinyddwr Swyddfa
Bydd Angela Fomison yn gweithio i godi proffil learndirect ym maes polisi yn ei swyddogaeth newydd fel Rheolwraig Polisi. Meddai: “Bydda’ i’n gweithio gyda’n partneriaid i gryfhau’r cysylltiadau rhwng polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a pholisi Ufi ac i sicrhau bod learndirect yn un o’r prif gyfranwyr at strategaeth e-ddysgu Cymru.”
Mae Emma Harvey yn aelod newydd o’r tîm ac mae hi wedi symud i Gymru o Bencadlys Ufi yn Sheffield. Ar ôl gweithio fel aelod o dîm datblygu’r gweithlu yn y gorffennol, bydd Emma bellach yn gweithio’n agos gyda phartneriaid learndirect yng Nghymru fel Hyfforddwraig Busnesau’r
Rhwydwaith. Meddai, “Rwy’n gyfrifol am wella gallu’r partneriaethau yng Nghymru, eu hyfforddi a’u cynorthwyo fel y gallant ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i ddysgwyr.”
Bydd Jon Jones yn cynorthwyo partneriaid learndirect yng Nghymru yn rhinwedd ei swyddogaeth newydd fel Cynghorydd Busnesau’r Rhwydwaith. Bydd yn canolbwyntio ar fonitro perfformiad yn erbyn targedau cynlluniau busnesau. Meddai: “Wrth fonitro perfformiad partneriaid, bydda’ i’n ystyried y defnydd o’r drwydded a’r gronfa diwtoriaid ac yn darparu data rheoli i gynorthwyo darpariaeth effeithiol.”
Bydd Louise Jones yn parhau â’i swyddogaeth fel Cydgysylltydd Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, gan gynllunio ymgyrchoedd cenedlaethol learndirect yng Nghymru a chynorthwyo partneriaid i deilwra ymgyrchoedd lleol.
Mae Owain Jenkins wedi ymuno â’r tîm fel Gweinyddwr Swyddfa. Cyn hynny roedd Owain yn gweithio fel cyfieithydd i gyngor lleol, ac mae ganddo arbenigedd yn y maes hwnnw. Meddai: “Rwy’n edrych ymlaen at drefnu digwyddiadau ar gyfer y rhwydwaith a goruchwylio trefniadaeth y swyddfa.