newyddion learndirect banner ar Ufi logo
  Chwefror 2006  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2 Cyflwyno tîm Ufi Cymru  
 

 
  Tu mewn…tudalen 3
Aelod y Bwrdd yn pennu cyfeiriad 2006
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 4
Tystysgrif lefel 3 learndirect mewn cymorth i e-ddysgwyr
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Arlunydd lleol yn ceisio gwella’i busnes gyda learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Gweithio shifft learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 6
Nick Ainger AS yn mynd
ar-lein gyda phobl leol

 
 



Bryn Davies, Pennaeth Coleg Ystrad Mynach ac aelod o Fwrdd Ufi yn croesawu Wayne David AS i ganolfan learndirect yng Nghaerffili

“Mae rhwydwaith learndirect wedi cyflawni llawer yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae dros 75,000 o ddysgwyr yng Nghymru wedi cysylltu â learndirect ac mae mwy o bwyslais nag erioed yn cael ei roi ar safon y gwasanaeth y mae’r dysgwr yn ei dderbyn. 

Brand cryf
“Mae learndirect yn frand adnabyddus ac amlwg ledled Cymru a’r DU, ac eleni nododd 74% eu bod yn ymwybodol o’r brand. Rydym yn cynnig gwasanaeth da ac mae gennym rwydwaith effeithiol i’w roi ar waith. Mae’n bwysig i ni adeiladu ar y seiliau hyn, gan gyhoeddi’n llwyddiant a pharhau i wella i sicrhau bod learndirect yn ymateb i anghenion a galwadau dysgwyr a rhanddeiliaid.

Newid y strwythur gwleidyddol
“Mae rhwydwaith learndirect yn enghraifft ragorol o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth a rhaid i ni barhau i rannu arfer da rhwng darparwyr i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ac i wella’r gwasanaeth ledled Cymru. Ar

 


Aelod y Bwrdd yn pennu
cyfeiriad 2006

Dyma Bryn Davies, Pennaeth Coleg Ystrad Mynach ac aelod Bwrdd Ufi, yn myfyrio ar newidiadau a datblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru ac yn rhoi trosolwg strategol o gyfeiriad Ufi Cymru ar gyfer 2006.

 

adeg pan fo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog sefydliadau yn y sector cyhoeddus i gydweithio, rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle posib i godi proffil learndirect fel adnodd ychwanegu at werth ar gyfer y llywodraeth ac ar gyfer pobl Cymru.”

Gwerth am arian
“Mae rhwydwaith learndirect wedi’i ail-wampio i wella ansawdd y cynnyrch ac mae polisi’r llywodraeth yn gofyn i bob partneriaeth ddangos sut mae dysgwyr ac arian cyhoeddus yn cael eu rheoli’n effeithiol. Rhaid i ni wneud y defnydd gorau posib o arian cyhoeddus trwy wario’n gall a chanolbwyntio ar ansawdd ein gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cofrestru rhagor o fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad i gymorth hyblyg ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw. Rhaid i ni ddangos ein bod yn ychwanegu gwerth i bob punt o arian cyhoeddus sy’n cael ei gwario ar ddarpariaeth learndirect.

Cymwysterau
“Wrth ddarparu gwasanaeth gwell i ddysgwyr, bydd Ufi yn rhoi mwy o bwyslais ar gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau cenedlaethol. Rydym yn awyddus i gynnig cyfle i ddysgwyr ennill cymwysterau cydnabyddedig yn dilyn eu profiadau gyda learndirect. Wrth weithio mewn partneriaeth â’r sector Addysg Bellach, bydd Ufi Cymru’n cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o

 

gynyddu’r nifer o oedolion yng Nghymru sydd â chymwysterau.

Cysylltu â Chyflogwyr
“Bydd cysylltu â chyflogwyr yn flaenoriaeth i bartneriaid sy’n cynnig y gwasanaeth yn ystod y misoedd nesaf. Mae Ufi yn awyddus i ehangu ar y gweithgareddau cyfredol gyda’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol a Busnesau Bach a Chanolig i ddefnyddio e-ddysgu i gynorthwyo mwy o gyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae learndirect yn llwybr hyfforddi delfrydol ar gyfer busnesau, ac mae’n cynnig pecynnau wedi’u teilwra ac agwedd hyblyg tuag at ddysgu.

Edrych tua’r dyfodol
“Cyn hir bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei pholisi ‘Y Wlad sy’n Dysgu – y 5 mlynedd nesaf’ ac mae rhwydwaith learndirect mewn sefyllfa ddelfrydol i gyfrannu at yr agenda dysgu a datblygu economaidd yng Nghymru. Bydd Ufi hefyd yn cynnal nifer o brosiectau i ehangu dylanwad   learndirect. Bydd Ufi Cymru yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cyrsiau learndirect gyda Bagloriaeth Cymru.

Bydd 2006 yn flwyddyn brysur, gyffrous a llawn her. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi wrth i ni barhau i gryfhau a datblygu learndirect yng Nghymru.”

 

           
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig Hafan Hafan

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6   Saesneg