newyddion learndirect banner ar Ufi logo
  Chwefror 2006  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2 Cyflwyno tîm Ufi Cymru  
 

 
  Tu mewn…tudalen 3
Aelod y Bwrdd yn pennu cyfeiriad 2006
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 4
Tystysgrif lefel 3 learndirect mewn cymorth i e-ddysgwyr
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Arlunydd lleol yn ceisio gwella’i busnes gyda learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Gweithio shifft learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 6
Nick Ainger AS yn mynd
ar-lein gyda phobl leol

 
 

Tystysgrif lefel 3 learndirect mewn
cymorth i e-ddysgwyr



Mae nifer o staff rhwydwaith learndirect wedi cofrestru ar gyfer y dystysgrif yn barod, a gobeithio y bydd rhagor yn gwneud yn 2006. Mae angen i’r dysgwyr dreulio cryn amser yn paratoi eu portffolios, ond mae’r holl dasgau wedi’u seilio ar ymarferion gwaith, felly yr angen i fod yn drefnus a dangos ymroddiad yw’r elfennau pwysicaf.”



nod yn y pen draw yw gwella ansawdd y profiad learndirect ar gyfer ein dysgwyr.

“Mae rhwydwaith learndirect yng Nghymru eisoes yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, ac mae’r cannoedd o enghreifftiau o lwyddiant yn tystio i hynny. Bydd y cymhwyster hwn yn atgyfnerthu gwasanaeth y rhwydwaith ac yn sicrhau ein bod yn cydweithio i gynnal darpariaeth learndirect o safon uchel iawn ledled Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am dystysgrif learndirect mewn cymorth i e-ddysgwyr, cysylltwch â Carol Robson ar 01656 747020 neu e-bostiwch

carol@acomltd.co.uk

 


Mae staff cymorth learndirect mewn canolfannau dysgu ledled Cymru yn cael eu hannog i weithio tuag at gymhwyster cymorth i e-ddysgwyr newydd sy’n unigryw i learndirect..

Mae tystysgrif lefel 3 City & Guilds mewn cymorth i e-ddysgwyr learndirect ar gael i’r rhai sy’n cynorthwyo dysgwyr learndirect.

Bydd Ufi Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy’n gwneud gwaith arwain a chynorthwyo dysgu yn rhwydwaith learndirect yn ennill y cymwysterau priodol.

Meddai Phillip Lloyd, Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol Cymru: “Er mwyn gwella’n cymorth i’n dysgwyr yng Nghymru, erbyn 2010, mae Ufi Cymru yn argymell y bydd pob aelod o staff cymorth personol a staff y cyrsiau sy’n gweithio gyda dysgwyr learndirect yng Nghymru wedi pasio cymhwyster lefel 3 priodol o fewn blwyddyn o ymuno â rhwydwaith learndirect.

“Mae’r dystysgrif lefel 3 mewn cymorth i e-ddysgwyr yn cael ei darparu gan Wasanaethau Busnes Acom yng Nghymru, un o bartneriaid learndirect, ac mae wedi’i hysgrifennu’n arbennig i gydymffurfio â’n safonau o ran rhoi cymorth i ddysgwyr learndirect

“Mae learndirect yn frand cenedlaethol, felly dylid cynnig yr un gwasanaeth i ddysgwyr ym mhob canolfan ddysgu. Bydd y cymhwyster newydd hwn yn helpu rheolwyr partneriaeth a rheolwyr canolfannau i sicrhau bod dysgwyr a chwsmeriaid yn derbyn cymorth a gwasanaeth o’r radd flaenaf yn gyson.”

Meddai Carol Robinson, Rheolwraig Partneriaeth learndirect Acom: “Mae’r dystysgrif gymorth i
e-ddysgwyr yn gymhwyster seiliedig ar waith ac mae ymgeiswyr yn gyfrifol am symud ymlaen gyda’u cyrsiau a chadw tystiolaeth o’u dysgu.”


 

Rhaid cwblhau naw uned i ennill y dystysgrif:

Uned    
001 Gweithio yn unol â diwylliant, polisïau a systemau learndirect a chydymffurfio â deddfwriaeth  
     
002 Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau learndirect  
     
003 Ymateb i ymholiadau a chroesawu dysgwyr  
     
004 Darparu gwybodaeth am ddysgu  
     
005 Cynghori dysgwyr  
     
006 Nodi anghenion dysgwyr, cofrestru a chynefino dysgwyr  
     
007 Darparu cymorth yn ystod y cwrs  
     
008 Adolygu a chynorthwyo cynnydd a llwyddiant dysgwyr  
     
009 Myfyrio a gwella ar berfformiad personol a chyfrannu at wella ansawdd  

Meddai Carol: “Mae ymgeiswyr yn llunio cynllun dysgu ac asesu ar gyfer pob un o’r naw modiwl. Mae Mentor ac Aseswr yn cael eu dewis ar gyfer pob ymgeisydd ac mae’r ddau’n cynnig cymorth o ran creu ac asesu cynllun dysgu a chasglu’r dystiolaeth ofynnol ar gyfer pob uned.

Meddai Phillip Lloyd o Ufi Cymru: “Nod y cymhwyster cymorth i e-ddysgwyr yw gwella ansawdd a chysondeb gwasanaethau learndirect. Wrth osod meincnod ar gyfer staff cymorth yng Nghymru, ein

           
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig Hafan Hafan

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6   Saesneg