Arlunydd lleol yn ceisio gwella’i busnes gyda learndirect
Frances Stickland yn dysgu yn llyfrgell Caerfyrddin
ngalluogi i ddod o hyd i werthwyr newydd, cysylltu â chyhoeddwyr ac, o bosib, sefydlu fy ngwefan fy hun.”
Meddai Phillip Lloyd, Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol Ufi Cymru: “Mae sgiliau TG wedi dod yn fwy a mwy pwysig i fusnesau bychain, ac mae learndirect yn cynnig llwybr hyfforddi delfrydol i alluogi unigolion i ennill sgiliau perthnasol mewn ffordd hyblyg sydd hefyd yn strwythuredig.
“Dwi wrth fy modd clywed bod Frances yn manteisio ar hyblygrwydd learndirect i ddatblygu sgiliau newydd ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’w busnes.”
dull dysgu learndirect yn ddelfrydol ar gyfer cannoedd o unigolion sy’n ei chael hi’n anodd cyfuno dysgu ag amserlen brysur eu bywydau bob dydd. I ddysgwyr fel Shane sy’n methu â mynychu dosbarthiadau coleg ar amseroedd penodol oherwydd ymrwymiadau gwaith neu deuluol, gall learndirect gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac ennill cymwysterau mewn amgylchedd cyfforddus.”
Meddai Bryn Davies, Pennaeth Coleg Ystrad Mynach ac aelod o Fwrdd Ufi: “Mae hanes Shane yn dangos yn glir sut gall dull hyblyg learndirect agor drysau i unigolion sy’n byw mewn cymdeithas lle mae amser yn beth prin a gwerthfawr. Mae learndirect yn galluogi dysgwyr i fagu hyder a datblygu sgiliau wrth eu pwysau eu hunain ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw.”
Mae arlunydd hunangyflogedig o Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin yn bwriadu defnyddio technoleg newydd i ehangu ei busnes, ac mae hi’n dysgu defnyddio cyfrifiaduron gyda learndirect a Choleg Sir Gar i’w rhoi hi ar ben ffordd..
Mae Frances Stickland, 39, yn gwerthu lluniau i orielau a chwmnïau cyhoeddi lleol ac mae hi’n hyderus y bydd y sgiliau TG y mae hi’n eu datblygu trwy ei chwrs learndirect yn ei galluogi i fod yn fwy effeithlon wrth reoli’i busnes ac i gyrraedd cynulleidfa ehangach ar y rhyngrwyd.
Meddai Frances, “Ar hyn o bryd rwy’n dilyn cwrs learndirect o’r enw ‘Switch on’. Fe welais boster yn hysbysebu cyrsiau cyfrifiadurol yn llyfrgell Caerfyrddin a chofrestrais yn syth pan ddeallais fod modd i mi fynychu sesiynau ar adegau oedd yn gyfleus i mi. Yn ogystal â bod yn brysur gyda fy ngwaith arlunio a gwaith gwirfoddol, mae gen i nifer o
ymrwymiadau eraill hefyd, felly mae natur hyblyg dysgu ar-lein yn addas iawn i mi.
“Rwy’n llwyddo i dreulio tua dwy awr yr wythnos yn gwneud y gwaith cwrs, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr. Gan nad oes gen i gyfrifiadur gartref, rwy’n gwneud fy ngwaith yng nghanolfan learndirect llyfrgell Caerfyrddin.
“Dwi ddim wedi defnyddio cyfrifiaduron o’r blaen ac roeddwn i’n nerfus iawn cyn dechrau fy ngwers gyntaf. Fodd bynnag, mae’r cyfarwyddiadau’n glir iawn ac mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i mi ail-wneud adrannau mwy nag unwaith, sy’n ddefnyddiol iawn.”
“Ar ôl i mi gwblhau’r cwrs hwn bydd gen i wybodaeth sylfaenol am gyfrifiaduron, a hoffwn fynd ymlaen i ddysgu mwy am y rhyngrwyd. Rwy’n meddwl y byddai hynny’n cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer fy musnes, gan fy
Gweithio shifft learndirect
Mae Shane Morgan, 30 oed o Aberbargoed, yn gweithio shifftiau mewn ffatri gwaith plastig leol, ond roedd yn benderfynol o gynnwys dysgu yn ei batrwm gweithio er mwyn datblygu ei sgiliau TG a symud i weithio mewn swyddfa. Roedd learndirect a Choleg Ystrad Mynach yn gallu cynnig yr ateb perffaith, ac erbyn hyn mae gan Shane nifer o gymwysterau TG i’w roi ar ben ffordd.
.
Mae Shane wedi cwblhau nifer o gyrsiau yng nghanolfan dysgu College @ Bargoed ac wedi ennill cymhwyster TG cydnabyddedig gyda learndirect, sef y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL).
Shane Morgan gyda’i diwtor Janet Jones, College @ Bargoed
Meddai: “Gadewais yr ysgol yn 17 oed ac es ymlaen i ddilyn cwrs Adeiladu BTEC gyda’r nos. Profiad o ddysgu mewn amgylchedd lle mae’r tiwtor yn arwain mewn ystafell ddosbarth sydd gen i’n unig, ac roeddwn i’n ansicr ar y dechrau a fyddwn i’n gallu addasu i’r dull newydd o e-ddysgu. Ond ar ôl i mi ddod i arfer gyda’r syniad fe sylweddolais ei fod yn ddull dysgu effeithiol a hyblyg.
“Gyda learndirect gallaf drefnu fy nghyfnodau dysgu i gyd-fynd â’m horiau gwaith, fy nheulu a’m bywyd cymdeithasol. I berson sy’n gweithio shifftiau, mae’n anodd dod o hyd i gwrs sy’n cyd-fynd ag amser rhydd rhywun, ond mae dysgu gyda learndirect wedi rhoi’r cyfle i mi ddewis oriau astudio sy’n gyfleus i mi a gallaf symud ymlaen wrth fy mhwysau fy hun.”
Meddai Janet Jones, Rheolwraig Canolfan Dysgu College @ Bargoed: “Mae