learndirect news heading banner with Ufi logo
  Chwefror 2006  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2 Cyflwyno tîm Ufi Cymru  
 

 
  Tu mewn…tudalen 3
Aelod y Bwrdd yn pennu cyfeiriad 2006
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 4
Tystysgrif lefel 3 learndirect mewn cymorth i e-ddysgwyr
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Arlunydd lleol yn ceisio gwella’i busnes gyda learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 5
Gweithio shifft learndirect
 
 

 
  Tu mewn…tudalen 6
Nick Ainger AS yn mynd
ar-lein gyda phobl leol

 
 

Tiwtor learndirect Glannau Dyfrdwy yw ein e-diwtor y flwyddyn




oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i unigolion astudio ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw, rhwng eu hymrwymiadau gwaith a chymdeithasol. Mae learndirect yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau y gellir eu dilyn gartref, yn y gwaith neu mewn canolfan ddysgu. Mae’n dda bod dysgu wedi dod yn fwy hygyrch trwy learndirect a dwi’n cael boddhad mawr o weithio gyda chymaint o ddysgwyr sy’n cyfuno dysgu â’u bywydau bob dydd ac yn mwynhau llwyddiant o ganlyniad.”
 
Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Roedd yn bleser i mi gyflwyno’r wobr
e-diwtor learndirect i wyneb sy’n gyfarwydd i’r rhwydwaith. Mae Sue wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddysgwyr a staff yn ei hamgylchedd gwaith ac mae ei gwaith caled yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”













learndirect yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydym wrth ein bodd bod
Mr Ainger wedi gallu ymweld â’n canolfan yn Llyfrgell Caerfyrddin i weld rhai o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl yn y gymuned leol.

Mae e-ddysgu yn cynnig ffordd amgen o ddysgu sy’n llai bygythiol na dulliau traddodiadol, ac mae’n perthynas gyda’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi’n galluogi i ddarparu mynediad i gyrsiau learndirect yng nghalon y gymuned. Trwy learndirect gallwn gyrraedd dysgwyr na fyddent, o bosib, yn fodlon ymweld â champws coleg.”

 

Derbyniodd Sue Horder, tiwtor learndirect yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, wobr e-diwtor y flwyddyn a noddir gan learndirect, yn ystod seremoni Gwobrau Tiwtoriaid y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE) 2005 a gynhaliwyd yn Wrecsam fis Tachwedd.

Mae Sue wedi bod yn gweithio fel Rheolwraig y Ganolfan Ddysgu ar safle Airbus UK ym Mrychdyn ers naw mlynedd, ac fe’i henwebwyd ar gyfer y wobr e-diwtor gan Diane Martin o Goleg Glannau Dyfrdwy.

Bwriad Gwobrau NIACE yw cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad tiwtoriaid i’w gwaith a’u myfyrwyr. Cyflwynir gwobrau i anrhydeddu llwyddiant tiwtoriaid a mentoriaid sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau eu dysgwyr.

Meddai Sue: “Roedd yn wefr go iawn i mi ennill gwobr! Mae’n gymeradwyaeth wych gan gyflogwr, yn arbennig felly

 


Sue Horder yn derbyn ei gwobr e-diwtor y flwyddyn yn Seremoni Dysgwr y Flwyddyn Niace 2005

pan mai dim ond gwneud ei waith y mae rhywun!”

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Sue wedi addysgu amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys Sgiliau Bywyd, y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Genedlaethol (ECDL), ieithoedd a chymwysterau ar gyfer rheolwyr. Mae hi hefyd wedi addysgu cannoedd o oedolion yn Airbus ym Mrychdyn, Coleg Glannau Dyfrdwy ac yn y gymuned ehangach. 

Meddai Sue: “Mae dysgu ar-lein wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar

 


Nick Ainger AS yn mynd ar-lein gyda phobl leol

Mae Nick Ainger, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Gweinidog i Swyddfa Cymru, wedi ymweld â Llyfrgell Caerfyrddin i weld sut mae dysgwyr yn yr ardal yn astudio amrywiaeth o bynciau ar-lein yn y llyfrgell gyda chymorth Coleg Sir Gâr a learndirect.

Mae Llyfrgell Caerfyrddin yn un o rwydwaith o ganolfannau cyswllt learndirect ledled Cymru. Mae’r ganolfan yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o gyrsiau learndirect ac yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr gofrestru ar gwrs o’u dewis. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio gyda learndirect a Choleg Sir Gâr i ehangu mynediad i amrywiaeth o gyrsiau ar-lein.

Meddai Nick Ainger: “Mae’r hyn sydd ar gael yn y llyfrgell

 



Ian Bennett, Rheolwr Partneriaeth learndirect, Nick Ainger, Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, a Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect
yng Nghymru


wedi creu cryn argraff arna’ i, ac mae’n dda bod cymaint o bobl leol yn defnyddio canolfannau learndirect yn eu cymunedau lleol i ddysgu neu wella eu sgiliau.”

Meddai Ian Bennett, Rheolwr Partneriaeth


           
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig Hafan Hafan

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6   Saesneg

 
   
   
   
   
           

© UFI Cyf Chwefror 2006. Cedwir pob hawl. Nod masnach cofestredig Ufi Cyf. yn learndirect. Mae pob gwybodaeth yn gywir adeg ei chyhoeddi