Gorffennaf 2006

 
 

YN Y RHIFYN HWN. . .

 
  Tu mewn…tudalen 2
NIACE Dysgu Cymru yn canmol cydweithio yng Nghymru
 
   
  learndirect yn cyrraedd y 2 filiwn!  
 
Tu mewn…tudalen 3
learndirect yn cyrraedd y 2 filiwn!
 
 
yn dathlu llwyddiant hyfforddi staff
 
  Tu mewn…tudalen 4
yn dathlu llwyddiant hyfforddi staff
 
 
College@Aber Valley yn agor ei ddrysau
 
  Tu mewn…tudalen 5
College@Aber Valley yn agor ei ddrysau
 
 
Hywel Francis AS yn seibrofod Cwmafan
 
  Tu mewn…tudalen 5
Hywel Francis AS yn seibrofod Cwmafan
 
 
E-ddysgwr y flwyddyn learndirect
 
  Tu mewn…tudalen 6
E-ddysgwr y flwyddyn learndirect
 
 

Dysgu ar-lein yn ffynnu yng Ngharchar Pen-y-bont ar Ogw

Mae carcharorion yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr yn manteisio ar gyfleoedd dysgu ar y we diolch i brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop a sefydlwyd mewn partneriaeth â learndirect.



Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru, yn cyflwyno tystysgrif cyrhaeddiad learndirect i Alton Watson yng Ngharchar Parc

Anogir carcharorion i ddilyn cyrsiau learndirect ar weithfannau e-ddysgu sydd wedi’u lleoli o gwmpas y carchar. Gall carcharorion ddysgu yn eu horiau hamdden, heb golli gweithgareddau strwythuredig eraill, a gallant ddewis o bob math o gyrsiau a gynigir gan learndirect.

Meddai Sean Yarranton, Rheolwr E-ddysgu Carchar y Parc: “Mae dysgu ar-lein yn beth newydd i lawer o’n dysgwyr ac mae’n cynnig nifer o fanteision i ni yma yng Ngharchar y Parc. Gall unigolion ddechrau dysgu o’r newydd, heb boeni am brofiadau dysgu yn y gorffennol. Mae hyblygrwydd learndirect yn gryfder

 

allweddol, ac mae’n galluogi dysgwyr i fynd ati wrth eu pwysau a pharhau â’u dysgu ar ôl gadael y carchar.

“Trwy osod y gweithfannau e-ddysgu o gwmpas y carchar, rydym yn rhoi’r dewis a’r cyfle i garcharorion ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau a fydd yn eu helpu i gael swydd ar ôl gadael y carchar.”

Mae Alton Watson, carcharor 29 oed yng Ngharchar y Parc, wedi cwblhau bron i ddwsin o gyrsiau learndirect. Meddai: “Mae dysgu ar-lein yn fy ngalluogi i weithio mewn amgylchedd hamddenol ac ennill sgiliau

 

a gwybodaeth i’m helpu i yn y byd mawr.

“Dwi wedi gweithio drwy nifer o gyrsiau TG gyda learndirect, gan gynnwys ECDL rhan 1 a 2, cyhoeddi bwrdd gwaith a datblygu safleoedd gwe HTML. Dwi wedi ennill sgiliau newydd a nifer o gymwysterau. Dwi wedi mwynhau’r dysgu sy’n cael ei gynnig yma a dwi wedi gwneud cais am le yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn dilyn cwrs HNC Astudiaethau Cyfrifiadurol sy’n dechrau ym mis Medi.

“Yn y pen draw, hoffwn fod yn gynllunydd gwe ac mae’r rhaglen learndirect yma yng Ngharchar y Parc wedi fy helpu i baratoi ar gyfer hyn.”

Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Mae’n dda gweld Alton yn defnyddio learndirect i ddatblygu ei gryfderau. Hoffwn ddymuno pob lwc iddo gyda’i astudiaethau yn y dyfodol a gobeithio bydd ei stori’n annog llawer o bobl eraill i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.”











 
 
 
       
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6 |  English