learndirect news heading banner with Ufi logo
 

Gorffennaf 2006

 
 

YN Y RHIFYN HWN. . .

 
  Tu mewn…tudalen 2
NIACE Dysgu Cymru yn canmol cydweithio yng Nghymru
 
   
  learndirect yn cyrraedd y 2 filiwn!  
 
Tu mewn…tudalen 3
learndirect yn cyrraedd y 2 filiwn!
 
 
yn dathlu llwyddiant hyfforddi staff
 
  Tu mewn…tudalen 4
yn dathlu llwyddiant hyfforddi staff
 
 
College@Aber Valley yn agor ei ddrysau
 
  Tu mewn…tudalen 5
College@Aber Valley yn agor ei ddrysau
 
 
Hywel Francis AS yn seibrofod Cwmafan
 
  Tu mewn…tudalen 5
Hywel Francis AS yn seibrofod Cwmafan
 
 
E-ddysgwr y flwyddyn learndirect
 
  Tu mewn…tudalen 6
E-ddysgwr y flwyddyn learndirect
 
 

NIACE Dysgu Cymru yn canmol cydweithio yng Nghymru

Mae Rob Humphreys, Cyfarwyddwr newydd NIACE Dysgu Cymru, yn credu bod annog darparwyr addysg yng Nghymru i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn denu unigolion i ddysgu..

Cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru,
Rob Humphreys

     

Mae NIACE Dysgu Cymru yn un o bartneriaid allweddol Ufi Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r ddau sefydliad yn canolbwyntio ar hyrwyddo addysg oedolion sy’n gysylltiedig ag agendâu sgiliau, cyflogadwyedd a chyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Meddai Mr Humphreys: “Mae ehangu mynediad i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg a hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol i NIACE Dysgu Cymru ac Ufi Cymru. Trwy weithio gyda phob math o ddarparwyr dysgu ledled y wlad, gallwn wella a datblygu addysg oedolion mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru. Ein nod cyffredin yw annog, ysbrydoli a rhoi’r cyfle i bobl ddysgu. Gall dysgu newid bywydau trwy gynnig cyfleoedd newydd ac mae cymunedau mwy medrus yn sicrhau cyfoeth a llwyddiant i economi Cymru.”

Wythnos Addysg Oedolion 2006
Cynhaliwyd Wythnos Addysg Oedolion unwaith eto ym mis Mai 2006 ac fe’i cyfunwyd eleni gyda dathliad

 

pen-blwydd NIACE Dysgu Cymru yn 21 oed. Mae’r digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn mewn 40 o wledydd, yn dod ag amrywiaeth eang o ddarparwyr addysg a grwpiau cymunedol ynghyd i ddathlu dysgu.

Meddai Mr Humphreys: “Unwaith eto, mae Wythnos Addysg Oedolion wedi ceisio denu pobl i ddysgu trwy annog unigolion i ‘droi eu llaw at rywbeth newydd’. Yng Nghymru, daeth dros 300 o ddarparwyr, colegau, prifysgolion, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, grwpiau gweithredu ac awdurdodau lleol â’u hadnoddau ynghyd i roi blas ar ddysgu i bobl.”

Mae Ufi Cymru yn falch o gefnogi ymgyrchoedd craidd NIACE Dysgu Cymru; Wythnos Addysg Oedolion ym mis Mai, Cofrestrwch Nawr ym mis Awst/Medi a Cymryd yr Awenau ym mis Ionawr; ymgyrchoedd a ystyrir yn hanfodol er mwyn cynyddu pwysigrwydd dysgu ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol. Mae llwyddiant yr ymgyrchoedd hyn yn

 

dibynnu ar gefnogaeth a brwdfrydedd partneriaid a noddwyr o bob cwr o’r wlad. Mae miloedd o lwyddiannau bob blwyddyn yn amlygu gwerth ac effaith yr ymdrech gyfunol hon.

Canlyniadau dysgu
Pwysleisiodd Mr Humphreys: “Mae dysgu’n darparu llawer o fanteision. Mae llawer yn gweld cyfle i wella’u bywydau, trwy wneud rhywbeth bychan ond pwysig. Mae cannoedd o unigolion yn ennill sgiliau i’w helpu yn y gwaith tra bo eraill yn cael boddhad o’r dysgu ei hun. Gall dysgu newid bywydau’n llwyr a helpu unigolion i oresgyn rhwystrau ac anawsterau.

“Mae gwahanol ddysgwyr yn teimlo’n gyfforddus gyda gwahanol fathau o ddysgu ac mae darparwyr yn cynnig pob math o ddulliau. Mae cyrsiau learndirect yn llwyddo i annog oedolion i ddysgu trwy gynnig mwy o hyblygrwydd. Mae’n bwysig i ni allu cynnig pecyn cynhwysfawr i unigolion er mwyn i ddysgwyr ddewis dull a fydd yn diwallu eu hanghenion.”


       
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6|  English