Yng nghanol bwrlwm Cwpan y Byd, mae menyw o Ferthyr Tudful wedi’i dewis i gynrychioli Cymru ar dîm go arbennig.
Phil Hope, y Gweinidog dros Sgiliau, gyda Pat Walters, dysgwr learndirect a’i gydweithwraig Helen Thomas o Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg.
Tîm 2 filiwn learndirect yn ymgynnull y tu allan i Dy ’r Cyffredin iddathlu eu llwyddiant
Fel un o’r 11 aelod, efallai nad yw Pat Walters yn bêl-droediwr nac yn seren genedlaethol, ond mae hi wedi’i chydnabod fel arwres o fath gwahanol mewn seremoni arbennig yn Llundain. Fel pob tîm llwyddiannus, mae gwaith caled a hyfforddiant wedi bod yn allweddol.
Mae Pat, Swyddog Hyfforddi yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg, yn rhan o Dîm ‘2 filiwn learndirect’, sy’n cynnwys dysgwyr learndirect o bob cwr o’r DU – un o bob un o ranbarthau Lloegr, un o Gymru ac un o Ogledd Iwerddon. Mae’r tîm yn cynrychioli’r 2 filiwn o bobl sydd wedi gwella’u sgiliau, eu gyrfaoedd a’u bywydau bob dydd trwy ddilyn cyrsiau learndirect dros y pum mlynedd diwethaf.
Rhyngddyn nhw, mae’r dysgwyr hyn wedi cwblhau cyrsiau mewn llythrennedd,
rhifedd, TG a busnes a rheoli trwy ddefnyddio cyfrifiaduron yn y cartref, yn y gwaith neu yn eu canolfan learndirect leol. Maen nhw wedi cyflawni amcanion sy’n amrywio o gael swydd i ennill hyder, helpu eu plant gyda’u gwaith cartref, i helpu i wella sgiliau busnes. Mae yna gyfanswm o 2 filiwn o ddysgwyr learndirect wedi gweithio i gyflawni uchelgeisiau personol neu broffesiynol tebyg.
Roedd Phil Hope, y Gweinidog dros Sgiliau, yn Llundain i ymuno â’r dathlu ac i longyfarch y tîm.
Meddai: “Mae’r Llywodraeth hon yn sicrhau bod dysgu’n fwy hygyrch i unigolion a busnesau fel ei gilydd. Sefydlwyd Ufi i wella gallu cystadleuol y genedl ac mae’n gwneud cyfraniad aruthrol i’n hagenda sgiliau. Trwy linell gymorth learndirect a dulliau dysgu ar-lein a ddarperir trwy
rwydwaith o ganolfannau ledled y wlad, rydym yn cyrraedd pobl o bob cefndir a rhanbarth ac yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”
Ar ôl cyfarfod â Phil Hope a siarad am eu profiadau, cafodd Pat a gweddill y tîm ginio yn Portcullis House, yr adeilad gyferbyn a Phalas San Steffan lle mae swyddfeydd yr ASau. Cawsant eu tywys o gwmpas Ty’r Cyffredin a buont ar daith arbennig ar y London Eye.
Meddai Pat: “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwych ac mae’n anrhydedd i mi gael bod yn rhan o Dîm 2 filiwn learndirect. Mae learndirect wedi gwneud byd o wahaniaeth i lawer o unigolion ac mae wedi cynnig ateb delfrydol o ran hyfforddiant i filoedd o fusnesau. Gobeithio y bydd mwy fyth o bobl yn cael eu hannog i weld yr hyn sydd gan learndirect i’w gynnig.”