learndirect news heading banner
  Mawrth 2007  
  YN Y RHIFYN HWN . . .  
  Tu mewn…tudalen 2
Rhagair gan Bennaeth Ufi
Cymru; taith learndirect yng
Nghymru
 
   
  Rhagair gan Bennaeth Ufi  
 
Tu mewn…tudalen 4
learndirect yn cynorthwyo
hyforddiant Saesneg ledled Cymru
 
 
learndirect yn cynorthwyo
 
  Tu mewn…tudalen 5
Sgiliau newydd yn agor
drysau i Sian
 
 
Sgiliau newydd yn agor
 
  Tu mewn…tudalen 5
Gwaith caled yn talu ffordd
i Debra
 
 
Gwaith caled yn talu ffordd
 
  Tu mewn…tudalen 6
Cydweithio i ddarparu addysg yn y gwaith
 
 
Cydweithio i ddarparu addysg
 
 

Staff cwmni cydrannau
modurol yn meithrin sgiliau technegol

Mae Harman/Becker yn gwmni cyflenwi cydrannau modurol rhyngwladol sydd â safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn ddiweddar, mae wedi bod yn gyrru ei staff i’r seiberofod er mwyn dysgu sgiliau newydd gyda chymorth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a’r darparwr dysgu ar-lein learndirect.

Michelle Clarke, Hyfforddwraig Sgiliau a Claire Evans, Swyddog Hyfforddi Harman/ Becker yn gweithio â rheolwr E-ddysgu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr David Mather i ddarparu learndirect learndirect.
Michelle Clarke, Hyfforddwraig Sgiliau a Claire Evans, Swyddog Hyfforddi Harman/ Becker yn gweithio â rheolwr E-ddysgu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr David Mather i ddarparu learndirect learndirect.

Mae’r staff wedi bod yn
dilyn ystod o gyrsiau ar-lein
er mwyn gwella eu sgiliau
TG a’u sgiliau rheoli, a hyd
yn oed er mwyn dysgu
ieithoedd newydd.

Dywedodd Claire Evans, y
Swyddog Hyfforddi: “Mae
gennym ni bron i 550 o staff
ar ein safl e ym Mhen-y-bont
ar Ogwr ac mae tua 10%
o’r rhain nawr yn dilyn cwrs
gyda learndirect.

“Roedd learndirect yn
ein galluogi i gynnig yr
amrywiaeth o gyrsiau yr oedd
ein gweithwyr yn dymuno
eu gwneud, ac yn ateb ein
hanghenion ni fel busnes. Gall
unigolion ddilyn cyrsiau yn eu hamser eu hunain naill ai ar
gyfrifi aduron yn y gwaith neu
yn eu cartrefi eu hunain. “Y llynedd fe wnaethom ni agor Canolfan Adnoddau

 

Dysgu ar ein safl e, a gofyn i Goleg Pen-y-bont ar
Ogwr am gyngor ynghylch
hyfforddiant. Roeddem ni’n
chwilio am ddarparwr a allai
gynnig ystod eang o gyrsiau
a fyddai’n bodloni lefel sgiliau ac anghenion amrywiol ein gweithwyr. Fe wnaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ein cyfl wyno i learndirect ac roeddem ni’n hapus iawn â’r holl gyrsiau oedd yn cael eu cynnig ac yn teimlo ein bod ni’n cael gwerth ein harian.

“O ganlyniad i’r prosiect hwn, rydym ni’n gobeithio gweld gwelliant yng nghymhelliant y staff a mwy o hyder ymysg unigolion. Rydym ni’n disgwyl cynnydd yn nifer y bobl fydd yn cofrestru dros yr ychydig wythnosau nesaf wrth i staff ddod yn fwy ymwybodol o’r hyn

 

sy’n cael ei gynnig.
Mae’r holl gyrsiau sydd ar
gael drwy learndirect yn
golygu y gallwn ni gynnig
llwybr dilyniant i ddysgwyr
a’u hannog i symud ymlaen at gyrsiau learndirect eraill, gan ehangu eu gwybodaeth
ac adeiladu portffolio o
gymwysterau cydnabyddedig.

Meddai Jeff Greenidge,
pennaeth learndirect yng
Nghymru: “Mae hyfforddiant staff yn hanfodol er mwyn
bod yn gystadleuol yn
yr amgylchedd busnes
sydd ohoni heddiw. Mae
learndirect yn galluogi
cwmnïau i gynnig ystod o
gyrsiau a chymwysterau i
weithwyr heb orfod rhyddhau staff o’r gweithle i wneud yr hyfforddiant.

“Mae hyblygrwydd dysgu
ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer y cyfl ogwyr a’r gweithwyr fel ei gilydd, gan fod dysgwyr yn gallu neilltuo amser i astudio rhwng gwaith ac ymrwymiadau
cymdeithasol yn ôl beth sy’n gyfl eus iddynt. Gall sgiliau a chymwysterau newydd arwain at fwy o hunanhyder, cael dyrchafi ad, a gweithlu mwy cynhyrchiol. Rwy’n falch
bod staff Harmen/Becker yn cael budd o hyblygrwydd cyrsiau learndirect ac yn
gobeithio y byddant yn parhau i ddefnyddio learndirect er mwyn ennill sgiliau a chymwysterau newydd.”





 
 
 
Argraffu'r dudalen Printer Icon Yn ôl i'r brig Top of Page Arrow

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2 a 3 |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6