Staff cwmni cydrannau
modurol yn meithrin
sgiliau technegol
Mae Harman/Becker yn gwmni cyflenwi cydrannau modurol rhyngwladol
sydd â safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn ddiweddar, mae wedi bod yn
gyrru ei staff i’r seiberofod er mwyn dysgu sgiliau newydd gyda chymorth
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a’r darparwr dysgu ar-lein learndirect.
Michelle Clarke, Hyfforddwraig
Sgiliau a Claire Evans, Swyddog
Hyfforddi Harman/ Becker yn
gweithio â rheolwr E-ddysgu
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr David
Mather i ddarparu learndirect learndirect.
Mae’r staff wedi bod yn
dilyn ystod o gyrsiau ar-lein
er mwyn gwella eu sgiliau
TG a’u sgiliau rheoli, a hyd
yn oed er mwyn dysgu
ieithoedd newydd.
Dywedodd Claire Evans, y
Swyddog Hyfforddi: “Mae
gennym ni bron i 550 o staff
ar ein safl e ym Mhen-y-bont
ar Ogwr ac mae tua 10%
o’r rhain nawr yn dilyn cwrs
gyda learndirect.
“Roedd learndirect yn
ein galluogi i gynnig yr
amrywiaeth o gyrsiau yr oedd
ein gweithwyr yn dymuno
eu gwneud, ac yn ateb ein
hanghenion ni fel busnes. Gall
unigolion ddilyn cyrsiau yn eu hamser eu hunain naill ai ar
gyfrifi aduron yn y gwaith neu
yn eu cartrefi eu hunain. “Y llynedd fe wnaethom ni agor Canolfan Adnoddau
Dysgu ar ein safl e, a gofyn i Goleg Pen-y-bont ar
Ogwr am gyngor ynghylch
hyfforddiant. Roeddem ni’n
chwilio am ddarparwr a allai
gynnig ystod eang o gyrsiau
a fyddai’n bodloni lefel sgiliau
ac anghenion amrywiol ein
gweithwyr. Fe wnaeth Coleg
Pen-y-bont ar Ogwr ein
cyfl wyno i learndirect ac
roeddem ni’n hapus iawn â’r
holl gyrsiau oedd yn cael eu
cynnig ac yn teimlo ein bod
ni’n cael gwerth ein harian.
“O ganlyniad i’r prosiect hwn,
rydym ni’n gobeithio gweld
gwelliant yng nghymhelliant
y staff a mwy o hyder ymysg unigolion. Rydym ni’n disgwyl
cynnydd yn nifer y bobl fydd
yn cofrestru dros yr ychydig
wythnosau nesaf wrth i staff
ddod yn
fwy ymwybodol
o’r hyn sy’n cael ei gynnig.
Mae’r holl gyrsiau sydd ar
gael drwy learndirect yn
golygu y gallwn ni gynnig
llwybr dilyniant i ddysgwyr
a’u hannog i symud ymlaen
at gyrsiau learndirect eraill, gan ehangu eu gwybodaeth
ac adeiladu portffolio o
gymwysterau cydnabyddedig.
Meddai Jeff Greenidge,
pennaeth learndirect yng
Nghymru: “Mae hyfforddiant
staff yn hanfodol er mwyn
bod yn gystadleuol yn
yr amgylchedd busnes
sydd ohoni heddiw. Mae learndirect yn galluogi
cwmnïau i gynnig ystod o
gyrsiau a chymwysterau i
weithwyr heb orfod rhyddhau
staff o’r gweithle i wneud yr
hyfforddiant.
“Mae hyblygrwydd dysgu
ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer
y cyfl ogwyr a’r gweithwyr
fel ei gilydd, gan fod
dysgwyr yn gallu neilltuo
amser i astudio rhwng
gwaith ac ymrwymiadau
cymdeithasol yn ôl beth sy’n
gyfl eus iddynt. Gall sgiliau
a chymwysterau newydd
arwain at fwy o hunanhyder,
cael dyrchafi ad, a gweithlu
mwy cynhyrchiol. Rwy’n falch
bod staff Harmen/Becker yn
cael budd o hyblygrwydd
cyrsiau learndirect ac yn
gobeithio y byddant yn parhau
i ddefnyddio learndirect er mwyn ennill sgiliau a
chymwysterau newydd.”