Rhagair gan Bennaeth Ufi
Cymru; taith learndirect yng
Nghymru
Mynd i’r afael â’r diffyg
sgiliau yng Nghymru Drwy learndirect, mae Ufi Cymru
yn denu rhai o’r bobl y mae’r
llywodraeth angen eu cyrraedd
fwyaf yn ôl i’r byd addysg. Nid
oes gan 17% o boblogaeth Cymru
gymwysterau ar hyn o bryd ac mae
gan 17% pellach gymwysterau o
dan lefel 2.
(The Leitch review 2007).
Drwy rwydwaith o fwy na 70 o
ganolfannau learndirect ledled
Cymru, portffolio o fwy
na 550
o gyrsiau a phecyn cymorth o
ansawdd uchel, mae darparwyr learndirect yn cynorthwyo
miloedd o bobl ledled Cymru i
ddysgu sgiliau newydd, i ennill
cymwysterau, i gael swyddi
newydd, neu i ddychwelyd i’r
gwaith.
Blaenoriaethau ar gyfer y
dyfodol Uchelgais Ufi Cymru yn ystod
y pum mlynedd nesaf yw
cynorthwyo agenda dysgu Cymru
ymhellach drwy ganolbwyntio
ar sgiliau sylfaenol, sgiliau er
cyfl ogadwyedd a chynnig llwybrau
clir o’r cwrs cyntaf i gymhwyster
cydnabyddedig.
Mae gwell sgiliau’n golygu gwell
twf economaidd a gwell cyfl eoedd
i bawb yn ein cymdeithas a dylem
barhau i ddefnyddio’r brand learndirect gyda’n gilydd i ddenu
unigolion i ffordd hygyrch a hyblyg
o ddysgu.
Dull partneriaeth Yn ystod y chwe blynedd diwethaf
mae 1 o bob 23 o’r boblogaeth
oed gweithio yng Nghymru wedi
cyfl awni cwrs learndirect. Mae
hyn yn golygu bod mwy na 100,000
o ddysgwyr wedi defnyddio learndirect. Mae’r llwyddiant
hwn yn deillio’n uniongyrchol
o’r bartneriaeth waith agos,
rhannu adnoddau ac arbenigedd
amrywiaeth eang o sefydliadau o’r
sectorau dysgu a sgiliau.
Partneriaeth ar waith Mae Ufi Cymru yn gweithio gyda
Phrosiect Cymorth Cenedlaethol ar gyfer y Gweithle yr Asiantaeth
Sgiliau Sylfaenol i dreialu’r defnydd
o gyrsiau learndirect i gynorthwyo
Addewid y Cyfl ogwr; Canolfan Byd
Gwaith i sicrhau bod rhieni unigol a
phobl ddi-waith yn cael mynediad
i gyrsiau learndirect; ac is-adran
Sgiliau, Busnes a Chyfl ogadwyedd
AADGOS i ymgorffori learndirect yn y rhaglen Datblygu’r Gweithlu a
gynigir i fusnesau ledled Cymru.
Dull cyfunol o ddarparu sgiliau
sylfaenol Ym mis Rhagfyr, cynhaliodd Ufi
Cymru ddigwyddiad ar y cyd
ag Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru i annog cydweithio rhwng
ymarferwyr Sgiliau Sylfaenol a staff learndirect. Mynychodd bron
i 80 o ymarferwyr y digwyddiad o Golegau AB, sefydliadau
Cymunedol, Carchardai a
darparwyr hyfforddiant preifat.
Yn sgil y digwyddiad, cynhelir
llawer o weithdai learndirect/
Sgiliau Sylfaenol gydol mis
Mawrth. Bydd y gweithdai’n
archwilio sut gall cyrsiau
learndirect gyd-fynd â’r
cwricwlwm lythrennedd a rhifedd
i oedolion. Rhestrir yddiadau a
lleoliadau’r gweithdai isod:
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-ybont ar Ogwr –
6 Mawrth 2007
Y Coleg Busnes, Abertawe –
7 Mawrth 2007
Canolfan Elwy, Llanelwy –
19 Mawrth 2007
Coleg Gwent, Campws Nash, Casnewydd – 29 Mawrth 2007
learndirect; Gwella sgiliau yng
Nghymru
Ar 28 Chwefror, roedd Ufi Cymru
yn cynnal ynhadledd i ddathlu
cyfl awniadau learndirect yng
Nghymru; cynhelir y bartneriaeth
gydag Addysg Bellach i amlygu’r
arferion da a ddefnyddir ledled y wlad. Roedd y digwyddiad yn
cynnig cyfl e i asiantaethau a
darparwyr addysg fyfyrio ar daith learndirect yng Nghymru hyd yma
a chyfrannu at gyfeiriad learndirect yng Nghymru yn y dyfodol.
Dathlu llwyddiant dysgwyr;
chwilio am enwebiadau Mae Ufi Cymru yn gweithio’n agos
â Niace Dysgu Cymru i gynorthwyo
addysg oedolion yng Nghymru.
Bydd Niace Dysgu Cymru yn
cynnal y Gwobrau Ysbrydoli ar gyfer
Dysgwyr fel rhan o’u hymgyrch Wythnos Addysg Oedolion 2007.
Mae’r Gwobrau Ysbrydoli yn dathlu
cyfl awniadau unigolion a grwpiau
cymunedol ac yn cynnwys pymtheg
categori gwahanol. Noddir y
categori E-ddysgu gan learndirect.
Am ffurflen enwebu a
gwybodaeth bellach am Wobrau
Wythnos Addysg Oedolion
Niace, ewch i:
www.alweek.org
Eleni, bydd learndirect yn cynnal
ei Wobrau Dysgwyr learndirect cyntaf erioed i ddathlu gwaith a
chyfl awniadau dysgwyr a staff learndirect ledled y DU. Mae 9
categori yn agored i bartneriaid
yng Nghymru sy’n cynnwys
dysgwyr unigol, Busnesau a
Chanolfannau Dysgu.
Cynhelir seremoni wobrwyo Cymru
gyfan ym mis Mehefin 2007 a
bydd unigolion llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn
seremoni Wobrwyo Genedlaethol y
DU ym mis Hydref.
Am ragor o wybodaeth am
Wobrau Dysgwyr learndirect, gan
gynnwys categorïau gwobrau a
ffurfl enni enwebu, ewch i:
www.learndirect.co.uk/awards
Y dyddiad cau am enwebiadau ar gyfer y ddwy wobr yw 16 Mawrth.
Diolch am eich gwaith caled
a’ch cefnogaeth i learndirect
dros y chwe blynedd ddiwethaf.
Edrychaf ymlaen at eich gweld at
y cynhadledd.