learndirect news heading banner
  Medi 2005  
  YN Y RHIFYN HWN …
 
  Tu mewn…tudalen 2
Julie Morgan AS yn logio arno i ddysgu yng nghyllid y wlad
 
 
Julie Morgan AS yn logio arno i ddysgu yng nghyllid y wlad - Tudalen 2
 
  Tu mewn…tudalen 3
Heriau neydd yn gofyn am newid yn Ufi Cymru
 
 
learndirect yn creu cysylltiadau â Gyrfa Cymru - Tudalen 4
 
  Tu mewn…tudalen 4
learndirect yn creu cysylltiadau
â Gyrfa Cymru
 
 
Sgiliau newydd yn arrwain at gyflogaeth i bâr o Dde Cymru  - Tudalen 5
 
  Tu mewn…tudalen 5
Sgiliau newydd yn arrwain at gyflogaeth i bâr o Dde Cymru
 
 
Joan yn cadw ei haddewid browni i ddysgu sgiliau newydd - Tudalen 5
 
  Tu mewn…tudalen 5
Joan yn cadw ei haddewid browni i ddysgu sgiliau newydd
 
 
Cymru: y wlad e-ddysgu - Tudalen 6
 
  Tu mewn…tudalen 6
Cymru: y wlad e-ddysgu
 
 

Dull cyfunol o asesu sgiliau sylfaenol

Gan ddefnyddio cyrsiau ar-lein learndirect i gynorthwyo anghenion sgiliau sylfaenol ar draws cwricwlwm coleg Llandrillo, mae carfan arbenigol o'r coleg wedi datblygu rhaglen dysgu cyfunol a dull arloesol o asesu sgiliau sylfaenol.

Stephen Bowkley, Rheolwr Partneriaeth learndirect Coleg Llandrillo
Stephen Bowkley, Rheolwr Partneriaeth learndirect Coleg Llandrillo

Mae'r coleg wedi datblygu rhaglen asesu ar-lein er mwyn gwneud diagnosis o fylchau sgiliau myfyrwyr, a thrwy ddefnyddio cyrsiau sgiliau sylfaenol ar-lein learndirect i ddarparu'r hyfforddiant sydd angen, mae'r prosiect yn defnyddio gwahanol fathau o adnoddau TGCh a thiwtoriaid i wella effeithlonrwydd a ansawdd y ddarpariaeth a'r cymorth o sgiliau sylfaenol trwy'r coleg.

Meddai Vaughan Williams, Cydlynydd Sgiliau Sylfaenol Coleg Llandrillo: “Roedd yna le i wella yn ein dulliau asesu a chymorth sgiliau sylfaenol. Roedd yr hen sustem yn defnyddio profion papur cenedlaethol, a oedd yn llafurddwys i diwtoriaid farcio â llaw. Ar ôl cwblhau y profion yn 2003, dangosodd fod dros 2000 o fyfyrwyr o wahanol meysydd cwricwlwm ar draws y coleg â anghenion sgiliau sylfaenol, roedd angen i ni fynd i'r afael â'r mater er mwyn

 

gwneud y broses yn fwy effeithiol a hawdd ei drin”.

“Trwy ddatblygu asesiad ar-lein ar gyfer myfyrwyr, fe deimlom y fantais o farcio ddi-oed; gyda'r holl wybodaeth wedi'i gysylltu'n uniongyrchol i amgylchedd dysgu rhithwir y coleg”.

“Pan fo disgyblion yn cael eu clustnodi â diffyg sgiliau sylfaenol, rydym ni'n eu cyfeirio nhw at gronfa-ddata sgiliau sylfaenol learndirect. Mae tiwtoriaid personol yn gweithio â disgyblion i greu rhaglennu dysgu unigol, sy'n cyfuno cynllun gwersi ar bapur a chyrsiau learndirect i gynnig profiad dysgu cyfunol.”

Meddai Rheolwr Partneriaeth learndirect Coleg Llandrillo, Stephen Bowkley: “Gyda nifer fawr o fyfyrwyr angen rhyw fath o tiwtorio sgiliau sylfaenol, mae angen dull o ddysgu allwn ni ei

 

ddosbarthu, ac mae cyrsiau ar-lein learndirect yn ffordd gyfleus ac effeithiol o ddosbarthu dysgu strwythurol i nifer o bobl. Wedi'i gyfuno a chymorth tiwtor, mae wedi profi i fod yn ffordd arbennig o lenwi bylchau sgiliau ar draws y cwricwlwm.”

“Mae learndirect yn cynnig ystod eang o gyrsiau sgiliau ar gyfer bywyd o safon uchel. Mae llawer o gyrsiau learndirect wedi'i cysylltu â chymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol, felly rydym ni yn gobeithio symud dysgwyr ymlaen i brofion sy'n galluogi pob unigolyn i adael â chymhwyster.”

Meddai Pennaeth Ufi Cymru, Jeff Greenidge: “Mae'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yng ngholeg Llandrillo i newid dull asesu sgiliau sylfaenol a chymorth ardraws y cwricwlwm yn deilwng o ganmoliaeth. Trwy ddull carfan, mae staff dysgu wedi creu a gweithredu rhaglen ddysgu gyfunol lwyddiannus i fyfyrwyr ardraws y cwricwlwm”.

“Yn naturiol, rydym ni yn falch fod y rhaglen yma yn hybu dysgwyr i ddefnyddio adnoddau ‘sgiliau ar gyfer bywyd' learndirect i cwrdd â'i anghenion, ac mae angen amlygu y rhaglen gynhwysfawr yma sydd ar waith yng ngholeg Llandrillo fel model o arfer da.”

 
 
 
       
Argraffu'r dudalen Argraffu'r dudalen Yn ôl i'r brig Yn ôl i'r brig

Hafan     Tudalen 1  |  Tudalen 2  |  Tudalen 3  |  Tudalen 4  |  Tudalen 5  |  Tudalen 6 |  Saesneg