Julie Morgan AS yn logio arno i ddysgu yng nghyllid y wlad
Galwodd AS Gogledd Caerdydd Julie Morgan mewn i ganolfan gweithle learndirect yng nghyllid y wlad i ddarganfod sut mae gweithwyr yn logio arno i ddysgu, trwy gymorth yr undeb PCS a darparwr dysg ar-lein learndirect .
Jeff Greenidge, Pennaeth Ufi Cymru gyda Julie Morgan, AS Gogledd Caerdydd
Mae canolfan adnoddau a dysgu cyllid y wlad yn Llanisien yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi gyda'r nod o helpu gweithwyr i ddatblygu ystod o sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith.
Meddai Julie Morgan: “Mae'r bartneriaeth rhwng cyllid y wlad, undeb y PCS a learndirect yn cynrychioli model arbennig o dda ar gyfer datblygiad y gweithlu ac mae'n dangos sut all technoleg newydd gael eu defnyddio yn effeithiol i wneud dysgu yn hygyrch a chau bylchau sgiliau cyfundrefnau ledled Cymru.
“Mae angen i ni rhoi cymorth a hybu dysgwyr gymaint â phosibl ac mae chwali'r ffiniau mae pobl yn eu hwynebu yn allweddol. Mae rhai cyflogwyr yn amharod i adael staff o'r gweithle i fynychu sesiynau hyfforddiant, felly, all canolfan yn y gweithle gwneud synnwyr perffaith.
Mae wedi bod yn brofiad da i weld beth sydd ar gael i weithwyr cyllid y wlad ac mae'n galonogol iawn i weld gymaint ohonyn nhw'n cymryd mantais o'r cyfle i ddysgu a gwella eu sgiliau.”
Meddai rheolwraig dysgu y ganolfan, Beryl Johnson: “Rydym ni yn falch iawn y roedd Julie Morgan yn medru ymweld â rhai o'm hadnoddau. Mae hyblygrwydd learndirect yn boblogaidd iawn gyda dysgwyr cyllid y wlad, oherwydd galla'n nhw ddilyn cyrsiau yn amser eu hunain ar gyflymder sy'n addas i'w anghenion personol.”
Meddai Pennaeth Ufi Cymru, Jeff Greenidge: “Mae'r gwaith mae'r partneriaid yn gwneud ledled Cymru yn helpu i ddod a chyfleodd dysgu i gymaint o bobl a phosibl – ac yn helpu'r Llywodraeth i gwrdd â'i targedau o ddarparu dysgu. Rydym ni'n ddiolchgar
i Julie Morgan am ymweld â'r ganolfan a dangos ei chefnogaeth i'r gwaith da sy'n cael ei wneud.
“Mae miloedd o gyfundrefnau ledled Cymru yn dioddef o ddiffyg sgiliau TG, a gall learndirect gynnig ateb gost ac amser effeithlon i'r broblem. Trwy alluogi gweithwyr i gyrchu dysgu ar-lein o'r gweithle, mae'n ffordd ddelfrydol o ennyn diddordeb unigolion a'i galluogi nhw i ddatblygu eu sgiliau yn hawdd.
“Fe ddylai'r bartneriaeth weithio rhwng learndirect , yr undeb PCS a cyllid y Wlad cael ei ddefnyddio fel model o arfer da wrth i ni geisio datblygu sgiliau y gweithlu yng Nghymru er budd yr economi yng Nghymru.”